Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiadau i ddod

 

Gweminar Ymwybyddiaeth Fampridine

Dydd Mercher 15 Mai – 6:30yh i 8yh

Trosolwg

Bydd y gweminar hwn yn rhoi cipolwg i chi ar y cyffur fampridine, a elwir hefyd yn Fampyra. Mae'r driniaeth hon yn arbennig o bwysig i bobl sydd â ffurfiau cynyddol o MS. Profwyd bod Fampridine yn effeithiol mewn 40% o bobl sy'n glinigol gymwys i'w gael a gall gael effaith gadarnhaol sylweddol ar ansawdd eu bywyd. Gall gyflymu ymatebwyr i gerdded tua 25% a gwella y fordd mae nhw yn ei symud yn sylweddol.

Bydd Dr Marguerite Hill, Niwrolegydd Ymgynghorol mewn MS yn Ysbyty Treforys a Lynne Watson, Ffisiotherapydd Arbenigol Clinigol yn Ysbyty Treforys, yn rhannu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ragnodi fampridine a darparu clinigau fampridine helaeth. Bydd y sesiwn yn cynnwys rhannu sut y datblygwyd y gwasanaeth fampridine ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sut mae'r cyffur yn cael ei roi, cymhwysedd, buddion, sgîl-effeithiau a chanlyniadau cleifion.

Bydd cyfle hefyd ar ddiwedd y weminar i ofyn cwestiynau i’r siaradwyr ond ni fyddant yn gallu rhoi cyngor meddygol personol fel rhan o’r weminar.

Cofrestrwch yma

 

Diwrnod Diagnosis Newydd (ar gyfer cleifion Caerdydd a’r Fro, Rhondda Cynon Taf a Chwm Taf) 19 Ebrill 2024 Future Inn, Bae Caerdydd, Heol Hemingway CF10 4AU

 

P'un a ydych wedi cael diagnosis yn ddiweddar, yn y broses o gael diagnosis neu yn bartner/aelod teulu i rywun sydd wedi cael diagnosis o MS yn ddiweddar, mae'r digwyddiad hwn ar eich cyfer chi. Mae’r tîm Sglerosis Ymledol yng Nghanolfan Helen Durham, Ysbyty Athrofaol Cymru ac MS Society Cymru yn eich gwahodd i ymuno â ni ar gyfer digwyddiad addysgol sy'n canolbwyntio ar ddiagnosis newydd o MS. I ddysgu mwy am MS gan ein panel o arbenigwyr, trefnwch eich lle:

Putting the Pieces Together - In person event - Future Inn Cardiff Bay Tickets, Fri 19 Apr 2024 at 09:00 | Eventbrite

 

Diwrnod Clefydau Niwroddirywiol ac sy’n Gwaethygu

Buzz Fi “Buzz Fi” yw gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn Cymdeithas MS Cymru. Rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth “Buzz Fi”.

 

ACT - Therapi Derbyn ac Ymrwymo

Nod ACT yw helpu pobl i ganfod mwy o ystyr a boddhad mewn bywyd bob dydd, tra’n rheoli profiadau mewnol megis meddyliau anodd, emosiynau ac anawsterau corfforol yn fwy effeithiol

Taflen Wybodaeth Therapi Derbyn ac Ymrwymo (Cymraeg)

Cysylltwch i gofrestru: mscymru@mssociety.org.uk

 

Cwnsela Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT)

Mae Cymdeithas MS Cymru yn cynnig 6 sesiwn cwnsela 1:1 am ddim i unrhyw un sy'n byw gydag MS a'u teuluoedd yng Nghymru.

Taflen Wybodaeth Cwnsela CBT

Cysylltwch i gofrestru: mscymru@mssociety.org.uk

 

Gweminarau Gwybodaeth y Gymdeithas MS

Cwestiynau Cyffredin y Gaeaf: Brechlynnau COVID-19, pigiadau’r ffliw ac MS.

Gwyliwch y fideo Cofrestrwch ar gyfer gweminarau ar dudalen we y Gymdeithas MS.

Dilynwch ni