Neidio i'r prif gynnwy

Triniaethau Addasu Clefydau (DMTs) a Monitro gwaed ar gyfer DMT

Mae triniaethau addasu clefydau (DMTs) yn grŵp o driniaethau ar gyfer pobl â sglerosis ymledol. Mae'r rhan fwyaf o DMTs ar gyfer pobl ag MS atglafychol-ysbeidiol (RRMS), ond mae yna rai sydd wedi'u trwyddedu i'w defnyddio gan bobl ag MS sy’n gwaethygu. I bobl ag RRMS, mae cyffuriau sy'n addasu clefydau yn lleihau nifer yr ail byliau o salwch y gallech eu profi yn ogystal â lleihau difrifoldeb unrhyw ail byliau y byddwch yn eu cael.

Mae amrywiaeth eang o gyffuriau wedi'u cymeradwyo i'w defnyddio gan y GIG yn y DU. Mae pob cyffur yn cynnig cyfuniad gwahanol o fuddion a risgiau.

Cyn dechrau DMT, bydd angen i ni gymryd rhywfaint o waed sylfaenol. Tra byddwch yn cael triniaeth, bydd angen i chi gael apwyntiadau ar gyfer monitro gwaed. Mae amlder hyn yn dibynnu ar y DMT a ragnodir i chi.

Cynhelir apwyntiadau monitro gwaed yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Athrofaol Llandochau, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Cwm Rhondda, Ysbyty Cwm Cynon ac Ysbyty'r Tywysog Siarl. Bydd eich ffurflen waed yn cael ei hanfon atoch yn y post gyda'ch llythyr apwyntiad. Cofiwch fynd â'r ffurflen waed gyda chi i'r ysbyty.

Gwnewch bob ymdrech i fynychu eich apwyntiad monitro gwaed. Os na allwch fynychu am unrhyw reswm, ffoniwch 02920745018 i aildrefnu.

Peidiwch â gofyn i'ch meddyg teulu gymryd y gwaed ar gyfer monitro DMT gan nad yw mewn sefyllfa i wneud hynny.

Rhagor o wybodaeth

Dilynwch ni