Neidio i'r prif gynnwy

Apwyntiadau a Chlinigau

Gellir cynnal ymgynghoriadau dros y ffôn, ymgynghoriadau fideo ac wyneb yn wyneb.

Os yw eich apwyntiad wyneb yn wyneb, gwiriwch leoliad yr apwyntiad gan ein bod yn gweld cleifion mewn lleoliadau amrywiol ledled Caerdydd a'r Fro a Chwm Taf.

Ar gyfer clinigau ffôn a fideo byddwch yn derbyn llythyr gydag amser apwyntiad bras, ond efallai y bydd y meddyg/gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cysylltu â chi o fewn awr neu ddwy cyn neu ar ôl yr amser a drefnwyd.

Mynychu eich apwyntiad drwy fideo.

Atgyfeiriadau newydd

Bydd pob atgyfeiriad newydd a dderbyniwn yn cael ei adolygu gan feddyg. Byddant yn asesu pa mor fuan y bydd angen i chi gael eich gweld, ac a oes angen trefnu unrhyw brofion eraill ymlaen llaw.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn i drafod eich atgyfeiriad.

Byddwch yn aros ar y rhestr aros hyd nes y cynigir apwyntiad i chi oni bai eich bod yn gwrthod mynychu.

Trwythiadau (DMT)

Mae trwythiadau bellach yn cael eu cynnig yn Ystafell 16 adran cleifion allanol Ysbyty Athrofaol Cymru.

Byddwn yn defnyddio mesurau rheoli heintiau yn yr uned ddydd i leihau'r risg o haint.

NI DDYLECH fynychu os ydych yn teimlo'n sâl neu os bydd rhywun yn eich cartref wedi bod yn sâl o fewn y 14 diwrnod diwethaf. Os yw hyn yn wir, ffoniwch 02920 743280.

Os na allwch fynychu am unrhyw reswm, ffoniwch 02920 743280 i aildrefnu.

Dilynwch ni