Beth ddylwn i ei wneud os oes gennyf symptomau’r coronafeirws?
Os oes gennych symptomau COVID-19 (peswch newydd a pharhaus, tymheredd uchel, neu wedi colli eich synnwyr blasu neu arogli neu newid i’r synhwyrau hynny) dylech hunanynysu a gwneud cais am brawf drwy naill ai:
Os ydych wedi trefnu mynychu ar gyfer trwythiad neu apwyntiad, PEIDIWCH â mynychu (rhowch wybod i ni a byddwn yn aildrefnu).
A ddylwn i gael brechlyn COVID-19/Ffliw os yw'n cael ei gynnig?
Cynghorir pawb sydd ag MS i gael brechlynnau COVID-19 a'r ffliw pan gânt eu cynnig. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n cymryd meddyginiaethau DMT.
A ddylwn i atal fy meddyginiaeth os bydd rhywun yn y cartref yn sâl?
Os ydych yn hunanynysu oherwydd bod rhywun yn eich cartref yn sâl, dylech barhau â'ch meddyginiaeth fel arfer oni bai eich bod yn mynd yn sâl.
A fydd y brechlyn COVID-19 yn effeithiol os ydw i'n cymryd DMT?
Rydym ni ac eraill wedi astudio ymatebion i'r brechlyn COVID-19 mewn pobl ag MS. Gwelsom fod gan bobl a oedd yn derbyn rhai DMTs (ocrelizumab a fingolimod yn bennaf) ymatebion ychydig yn wannach i frechlynnau COVID, ond cafodd hyn ei helpu trwy dderbyn dosau atgyfnerthu ychwanegol o'r brechlyn. Rydym yn argymell bod pawb sydd ag MS ac ar DMTs yn derbyn y brechlyn COVID gan fod unrhyw amddiffyniad yn debygol o fod yn well na dim.