Neidio i'r prif gynnwy

Beichiogrwydd

Nid yw MS yn achosi anffrwythlondeb nac yn cynyddu'r risg o gymhlethdodau beichiogrwydd fel camesgoriad, genedigaeth gynamserol, marw-enedigaeth neu namau geni.

Yn gyffredinol, ni fydd beichiogrwydd yn gwneud eich MS yn well nac yn waeth ac nid yw'n cynyddu'r risg o anabledd hirdymor sy’n gwaethygu. Efallai y bydd rhai cleifion yn dioddef symptomau MS sy'n gwaethygu rhywfaint, ond gall symptomau llawer o bobl wella hefyd.

Os ydych yn cynllunio beichiogrwydd a’ch bod yn derbyn triniaeth, trafodwch gyda'ch Niwrolegydd neu Nyrs MS fel y gallwn drafod eich cynlluniau ac adolygu eich meddyginiaethau

Mae rhagor o wybodaeth am feichiogrwydd ac MS ar gael yng nghanllawiau consensws ABN y DU a’r Gofrestr Beichiogrwydd MS. 

Dilynwch ni