Neidio i'r prif gynnwy

Seicoleg 

Mae Paul Bradley yn Seicolegydd Clinigol sy'n arbenigo mewn niwroseicoleg MS a chlefydau niwrolidiol eraill llai cyffredin fel Neuromyelitis Optica (NMO) a Neurosarcoidosis. Cwblhaodd Paul ei hyfforddiant doethurol ym Mhrifysgol Birmingham yn 2009 ac mae wedi gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol i bobl hŷn ac mewn timau asesu cof a niwroseicoleg cyn ymuno â’r tîm yng Nghanolfan Helen Durham yn 2015.

Rôl Paul fel seicolegydd yw rhoi persbectif seicolegol i dimau gofal iechyd ar draws De-ddwyrain Cymru ar effaith emosiynol cael diagnosis a byw gydag MS, gyda'r nod o wella dealltwriaeth ac ehangu mynediad i wasanaethau. Mae'n cwmpasu 3 bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf ac Aneurin Bevan. Mae ei waith hefyd yn cynnwys asesu newidiadau gwybyddol sy'n gysylltiedig â chyflyrau niwrolidiol a chynghori ar strategaethau adsefydlu gwybyddol a'u datblygu. Mae Paul yn gweithio o fewn y tîm, gydag aelodau’r tîm, ac yn gwneud argymhellion ar opsiynau triniaeth seicolegol addas a llwybrau gofal o fewn gwasanaethau gofal sylfaenol cymunedol a’r GIG, ac yn cyfeirio at adnoddau hunangymorth iechyd meddwl a lles addas. Gall Paul asesu rhai cleifion yn uniongyrchol dros y ffôn, trwy ymgynghoriad fideo neu mewn lleoliad cleifion allanol a gall gynnig nifer cyfyngedig o sesiynau triniaeth fel rhan o gynllun llesiant cyffredinol

 

Staff iau

Ar hyn o bryd mae gennym swydd Seicolegydd Cynorthwyol ac mae deiliad y swydd wedi bod yn gweithio ar brosiect ymchwil sy'n anelu at ddatblygu llwybr sgrinio gwybyddol i bawb sy'n cael diagnosis o MS a fydd, os profir yn effeithiol wrth reoli MS, yn cael ei fabwysiadu gan y GIG yn genedlaethol. Anogir Seicolegwyr Clinigol dan Hyfforddiant o Brifysgol Caerdydd, a Phrifysgolion eraill y DU, i gwblhau rhan o'u hyfforddiant o fewn y gwasanaeth ac mae Seicolegwyr Israddedig o Brifysgol Caerdydd hefyd wedi gweithio o fewn y gwasanaeth i gefnogi ei nodau.

 

Atgyfeiriadau

Daw atgyfeiriadau at niwroseicoleg o fewn y tîm. Os bydd unrhyw aelod o'r tîm yn nodi pryderon yn ystod eu gwaith gyda chleifion, yna gellir rhoi cyngor ar unwaith a chyfeirio at wasanaethau eraill a ddarperir. Efallai y bydd anghenion seicolegol cleifion hefyd yn cael eu trafod o fewn y tîm a gall aelod addas o'r tîm ymateb a darparu cyngor a chyfarwyddyd mwy penodol. Mae pwyslais arbennig ar hunanreolaeth a hunanofal o fewn y gwasanaeth. Mae llawer o adnoddau yn y gymuned a all helpu pobl sy'n byw gydag MS sy'n profi anawsterau emosiynol a seicolegol. Os yw’r mater yn fwy cymhleth, yna mae’n bosibl y bydd yn briodol atgyfeirio at y niwroseicolegydd am asesiad.

 

 

Dilynwch ni