Mae Canolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion yn glinig ymchwil gweithredol sy’n cynnal amrywiaeth o brosiectau ymchwil. Mae’n bosibl y bydd aelod o’r tîm ymchwil yn cysylltu â chi yn y clinig i siarad am brosiectau a allai fod o ddiddordeb i chi ac mae adnoddau ar gael ar gais, ac yn y clinig CF. Gallwch siarad ag unrhyw aelod o’r tîm CF am ymchwil, neu gysylltu â’r tîm ymchwil drwy’r manylion ar y dudalen hon i gael rhagor o wybodaeth;
Jennie Williams
Catherine Joyce
Lynne HOPKINS
Rhifau cyswllt: 02920 716 876 / 02920 715 040 / 07816 370 676
I gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan mewn treialon ac ymchwil Ffeibrosis Systig;
Cymryd rhan mewn treialon clinigol (cysticfibrosis.org.uk)
Traciwr Treialon - Trials Tracker (cysticfibrosis.org.uk)
Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal nifer o dreialon a phrosiectau yn uned Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion.
Mae Project Breathe yn gydweithrediad unigryw rhwng Magic Bullet, Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig, Microsoft a Microsoft Research, gyda’r nod o wella ansawdd bywyd pobl â CF.
Mae’r prosiect, sydd yn ei ddyddiau cynnar, yn ceisio grymuso pobl â CF i reoli eu hiechyd drwy hunan-fonitro trwy ddyfais glyfar gyda’r Ap Breathe Remote Monitor.
Am ragor o wybodaeth:
Magic Bullet – Digital healthcare solutions
Project Breathe: Help! I can't see my data - YouTube
Mae Banc Bio Prifysgol Caerdydd yn gyfleuster biofancio canolog, sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru, sy’n cynnig samplau bio dynol o ansawdd uchel ar gyfer ymchwil a wneir er budd cleifion i sefydliadau academaidd a masnachol. Maent wedi sefydlu casgliadau o nifer o feysydd clefyd gwahanol, ac yn croesawu ffyrdd o ddechrau casgliadau newydd nad ydynt eisoes wedi’u sefydlu o fewn y cyfleuster.