Gall byw gyda ffeibrosis systig a'i driniaeth ysgogi ystod o deimladau anodd. Gall y rhain gynnwys gofid, rhwystredigaeth, drwgdeimlad, straen neu deimlo'n isel. Mae'n normal teimlo rhywfaint o bryder neu ofid wrth fyw gyda chyflwr iechyd. Weithiau gall y teimladau hyn barhau am amser hir neu deimlo fel gormod i ddelio â nhw, a dechrau effeithio ar eich gallu i ymdopi â bywyd o ddydd i ddydd.
Mae’r gwasanaeth seicoleg ffeibrosis systig yn arbenigo mewn helpu pobl i ymdopi ac addasu i straen emosiynol byw gyda ffeibrosis systig.
Ein seicolegwyr clinigol:
Catherine O'LEARY
Aimee STIMPSON
Ellen HUISH
Gallwch gysylltu â ni trwy ofyn i un o'r tîm eich atgyfeirio. Fel arall, gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol
Rhif ffôn: 029 21 824597
Ymunodd Dr Bryne â thîm amlddisgyblaethol CF nifer o flynyddoedd yn ôl ac mae’n cynnig cyfraniad amhrisiadwy i les parhaus cleifion CF sydd â phroblemau sylweddol yn ymwneud â phoen a rheoli symptomau. Bydd llawer o’n cleifion wedi meithrin perthynas ardderchog gyda Dr Byrne, yn dilyn ei gyfraniad i’w cynlluniau rheoli gofal parhaus; gyda phob un ohonynt wedi cael budd o gael mewnbwn gofal cefnogol/CF ar y cyd.
Dr Anthony BYRNE
Mae Dr Byrne hefyd yn darparu mewnbwn amhrisiadwy mewn perthynas â materion diwedd oes, yn ogystal â sicrhau bod gofal integredig cydgysylltiedig yn cael ei ddarparu er mwyn diwallu anghenion newidiol cleifion, bod llwybrau rheoli ar y cyd yn eu lle, a bod disgwyliadau cleifion yn cael eu bodloni yn unol â’u dymuniadau.
Rydym yn gweld pobl sy'n cael pob math o anawsterau. Mae’r rhestr isod yn cynnwys rhai o’r problemau y gallwn eich helpu gyda nhw:
Nid yw gweld seicolegydd yn golygu eich bod yn wan neu fod rhywbeth o'i le arnoch yn seicolegol. Rydych chi'n gorfod ymdopi ag amgylchiadau eithriadol. Gall byw gyda CF fod yn anodd a gall siarad â seicolegydd eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddelio â'r anawsterau.
Rydym ar gael ar gyfer apwyntiadau cleifion mewnol ac allanol. Gallwn gwrdd ar gyfer un apwyntiad neu ar gyfer sesiynau rheolaidd, yn dibynnu ar eich dymuniadau a'ch anghenion.
Mae'r fideo byr hwn gan Seicolegydd CF, Anna, yn esbonio pam mae pob emosiwn yn bwysig.
Rydym wedi casglu gwybodaeth at ei gilydd am ystod o wasanaethau a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer delio â straen byw gyda ffeibrosis systig. Gall cleifion a'u teuluoedd gael mynediad at y gwasanaethau hyn, ac nid oes angen atgyfeiriad.
Mae croeso i chi gysylltu â'n gwasanaeth os oes gennych unrhyw gwestiynau. Gallwch gysylltu â ni trwy ofyn i un o'r tîm eich atgyfeirio. Fel arall, gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol dros y ffôn: 02921 824597.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf gan wasanaeth AWACF darllenwch ein cylchlythyr rheolaidd.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig ystod wych o gymorth a gwybodaeth gyfredol am Ffeibrosis Systig. Dyma rai o’r ffyrdd y gallant eich cefnogi -Cymorth (cysticfibrosis.org.uk)
Os nad ydych erioed wedi rhoi cynnig ar ymwybyddiaeth ofalgar o'r blaen, gallai hwn fod yn amser da i roi cynnig arni. Rydym wedi recordio 3 ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar byr i chi roi cynnig arnynt.
Ymarfer Anadlu Byr
Paned Ofalgar o De
Ymarfer Gosod Sylfaen