Mae’r gweithiwr cymdeithasol CF yn ymwybodol o’r effaith o ddydd i ddydd a’r effaith hirdymor y gall cyflwr iechyd cronig ei chael ar y rhai sy’n byw gyda CF a gall gynorthwyo gyda llawer o bryderon bob dydd i geisio gwneud bywyd ychydig yn haws. Gellir cael mynediad at gymorth gwaith cymdeithasol cyn lleied neu mor aml ag y bo angen, tra yn yr ysbyty neu yn y gymuned, wyneb yn wyneb, yn rhithwir, neu drwy e-bost, neges destun neu dros y ffôn.
Gellir rhoi cyngor am lawer o adnoddau cymdeithasol sydd ar gael a sut i gael gafael arnynt, yn ogystal â chymorth ac eiriolaeth ar ystod o faterion fel y canlynol:
Cefnogi oedolion ifanc wrth symud o ofal pediatrig i ofal oedolion, gan gydweithio â Gweithiwr Ieuenctid CF a Seicolegwyr Clinigol.
Gwneud cais am grantiau neu fudd-daliadau i fyfyrwyr a sicrhau bod y coleg neu’r brifysgol yn gwybod am unrhyw anghenion penodol a allai godi oherwydd bod gennych ffeibrosis systig.
P’un a’n chwilio am waith addas, yn meddwl am newid gyrfa, eisiau lleihau eich oriau, neu angen gwybod am eich hawliau, mae’n bosibl y gallwch hawlio tra’n gweithio.
Cefnogaeth i weld a ydych yn gymwys i gael grantiau, budd-daliadau DWP (Taliad Annibyniaeth Personol, Credyd Cynhwysol ac ati), llenwi ffurflenni ac apeliadau.
Deall eich opsiynau pan fyddwch eisiau symud i le eich hun ac a ydych yn gymwys i gael unrhyw grantiau i’ch helpu i setlo, neu lythyrau cymorth.
Dysgwch am y cynllun ceir Motability, cael eich eithrio o dreth cerbyd, cynllun y bathodyn glas, tocyn teithio consesiynol, help gyda chostau teithio i’r ysbyty.
Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd (HTCS) - GIG (www.nhs.uk)
Cynllun Motability - Cynllun Ceir a Sgwteri i bobl anabl
Pwy ydych chi, y ffordd rydych chi’n meddwl amdanoch chi’ch hun, y ffordd rydych chi’n cael eich gweld gan y byd a’r nodweddion sy’n eich diffinio.
Cydraddoldeb ac amrywiaeth – beth yw’r gwahaniaeth? | Unionlearn
Problemau gyda chydberthnasau ag anwyliaid ac yn ystod cyfnodau o newid pan fo angen gwneud penderfyniadau anodd.
Relate | The relationship people
Gall bod yn ‘ofalwr’ i aelod o’r teulu neu ffrind sydd â phroblem iechyd cronig gael effaith sylweddol ar fywydau’r rhai sy’n ymgymryd â’r rôl hon.
Rydyn ni yma i wneud bywyd yn well i ofalwyr - Carers UK
Cael cyngor am gymorth os ydych chi’n cael trafferth yn ymdopi gartref
Gofal a chymorth yn y cartref, gwaith Gofal Cymdeithasol Cymru | Gofal Cymdeithasol Cymru
Ar gyfer cleifion, eu teuluoedd neu eu hanwyliaid wrth wynebu’r cyfnod anodd hwn mewn bywyd.
Profedigaeth a ffeibrosis systig
I gael rhagor o fanylion cysylltwch â
Viv EDWARDS
Ffôn: 02921824599
Mob: 07966215881
E-bost: Vivien.edwards@wales.nhs.uk