Mae gennym ddau glinig diabetes a gynhelir ar fore'r 2il a'r 3ydd dydd Mawrth o bob mis.
Mae nifer yr achosion o ddiabetes sy'n gysylltiedig â ffeibrosis systig (CFRD) yn cynyddu gydag oedran. Mae data diweddar yn dangos bod CFRD yn effeithio ar dros 30% o oedolion sydd â CF.
Mae'r tîm CF arbenigol yn gweithio ochr yn ochr â thri meddyg ymgynghorol diabetes;
Professor Susan WONG
Dr Lindsay GEORGE
Dr Maitrayee CHOUDRY
Unwaith y flwyddyn, bydd y meddygon ymgynghorol diabetes yn gwirio am unrhyw gymhlethdodau diabetes fel; rhannau o groen sydd wedi codi’n uchel, sydd wedi cael eu gor-ddefnyddio wrth chwistrellu inswlin, colli teimlad yn y traed. Byddant hefyd yn gofyn am sgrinio llygaid.
Mae gan y gwasanaeth CF Oedolion hefyd nyrs glinigol diabetes CF llawn amser arbenigol – Kelly WEBB.
Bydd Kelly yn mynd gyda'r meddygon ymgynghorol diabetes yn ystod adolygiad clinigol a bydd yn gweithredu ar unrhyw beth y nodwyd bod angen gwneud gwaith dilynol arno, megis rhoi cyngor a sicrwydd, monitro glwcos neu ateb ymholiadau.
Taflen ffeithiau am ddiabetes sy'n gysylltiedig â ffeibrosis systig: CFRD - Cystic Fibrosis-Related Diabetes