Mae maeth da a phwysau corff iach yn gysylltiedig â gwell gweithrediad yr ysgyfaint a heintiau llai aml ar y frest i bobl â Ffeibrosis Systig. Mae eich tîm deieteg CF yma i’ch cefnogi ym mhob agwedd ar eich gofal maethol CF. Rydym yn gweithio’n agos gyda phob aelod o’ch tîm CF gan gynnwys Nyrsys, Meddygon, Ffisiotherapyddion, Seicolegwyr, Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Ieuenctid, Fferyllwyr a thimau diabetes arbenigol CF a’r afu. Yn ogystal, os oes angen cymorth arnoch gan feysydd arbenigol eraill o ran gofal maethol, mae gennym gysylltiadau agos â’n Deietegwyr Arbenigol eraill yng Nghymru a’r DU.
David PROUD - Deietegydd CF Arweiniol i Oedolion
Bea POTOCKA - Gweithiwr Cymorth Deieteg
Chloe KNORZ - Deietegydd CF Arbenigol Locwm
Nikki CLINCH - Gweithiwr Cymorth Deieteg
Lauren JONES - Dietegydd CF Arbenigol
Os oes angen i chi gysylltu â’ch tîm deieteg CF, ffoniwch eich tîm Nyrsys CF ar 07875 565699 a byddan nhw’n cysylltu â ni.
Magu pwysau iach mewn ffeibrosis systig -Achieving a healthy weight in CF
Calsiwm ac iechyd esgyrn mewn ffeibrosis systig - Calcium and bone health in CF
Alcohol a CF - Drinking alcohol and CF
Ymarfer Corff a CF - Exercise nutrition in CF
Problemau GI a CF - Gastrointestinal issues in CF
Bwyta’n iach a CF - Healthy eating and CF
Haearn yn y deiet CF - Iron in the CF diet
Gadael cartref a bwyta’n dda gyda CF - Leaving home and eating well with CF
Beichiogrwydd a CF - Nutrition and pregnancy in CF
PERT a CF - Pancreatic enzyme supplement and CF
Maeth ar ôl trawsblaniad yr ysgyfaint ar gyfer pobl â CF - Postlung transplant nutrition for people with CF
Halen yn y deiet CF - Salt in the CF diet
Yfed digon gyda CF - Staying hydrated and CF
Fitaminau atodol a CF - Vitamin supplements in CF
Llyfryn delwedd y corff Ymddiriedolaeth CF - body-image-and-cystic-fibrosis-booklet
CF Taflen ffeithiau diabetes - CF diabetes fact sheet
Ffeithiau Bwyd Cymdeithas Ddeieteg Prydain:
Mae’r Taflenni Ffeithiau Bwyd sydd ar gael am ddim ar wefan BDA wedi’u hysgrifennu gan Ddeietegwyr i’ch helpu i ddysgu’r ffyrdd gorau o fwyta ac yfed i gadw’ch corff yn ffit ac yn iach.
Fodd bynnag, nid yw’r taflenni ffeithiau hyn yn mynd i’r afael yn benodol ag anghenion person sydd â CF ac felly dylid eu hystyried fel gwybodaeth yn unig. Siaradwch â’ch Deietegydd CF os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Ffeithiau Bwyd | Cymdeithas Ddeieteg Prydain (BDA)