Mae Canolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion yn cyflogi gweithiwr arbenigol amser llawn i gefnogi pobl ifanc 13 i 25 oed trwy gydol eu cyfnod pontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion. Mae'r gwaith yn seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd gwaith ieuenctid ac rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth ac arweiniad ar ystod eang o faterion, megis; hunaniaeth a pherthyn, iechyd a lles, addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, cydberthnasau iach a diogel a byw'n dda gyda Ffeibrosis Systig.
Mewn gofal iechyd, rydym yn defnyddio'r gair pontio i ddisgrifio'r broses o baratoi, cynllunio a symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion. Gall symud i ffwrdd o dîm o feddygon a nyrsys yr ydych wedi bod gyda nhw ers llawer o flynyddoedd fod yn frawychus i chi a'ch teulu, ond trwy gymryd rhan yn y broses bontio gallwch gael eich grymuso i deimlo'n fwy hyderus a hapusach am y symud.
Am fwy o wybodaeth - https://www.readysteadygo.net/rsg.html
Mae tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi datblygu adnoddau i gefnogi proses bontio pobl ifanc gyda chyllid gan HARP - Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Lab (Prifysgol Caerdydd a Nesta). Cymerwch olwg ar y map a gwyliwch y fideo cerdded drwodd i ymgyfarwyddo ag Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc i ddarparu cyfleoedd i gefnogi eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol trwy gydol y broses bontio. Gellir gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd: Apwyntiadau clinig; cefnogaeth Un i Un; Cefnogaeth Grŵp Cymheiriaid Digidol; Ymweliadau pontio; Cefnogaeth ar y ward; Cyfeirio / Atgyfeirio.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â;