Neidio i'r prif gynnwy

Labordy Metabolaidd

Is-adran yw'r labordy hwn o'r Adran Biocemeg Feddygol, ac mae'n cael ei harwain gan yr Athro Stuart Moat (Biocemegydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr - Labordy Sgrinio Babanod Newydd-anedig Cymru) a'i reoli gan Rachel Hunt (Gwyddonydd Biofeddygol Arweiniol).

Rydym yn cynnig nifer fawr o brofion gwaed, wrin ac ysgarthol, sy'n ofynnol ar gyfer diagnosio a monitro ystod eang o anhwylderau:

  • Gwallau cynhenid mewn metabolaeth
  • Ffibrosis systig
  • Clefydau pancreatig a pherfeddol
  • Monitro maethol.

Derbynnir sbesimenau o sawl ysbyty yng Nghymru a ledled y DU. Yn ogystal â'r gwasanaeth dadansoddi, mae ein staff ar gael i ddarparu cyngor clinigol ar ymchwiliadau priodol a dehongli canlyniadau.

Gwybodaeth i Gleifion

Ni all cleifion gael mynediad uniongyrchol at y gwasanaethau labordy hyn - mae angen atgyfeiriad gan feddyg teulu neu feddyg arbenigol (yn dibynnu ar y cyflwr dan sylw). Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwasanaethau sydd ar gael a sut y gallwch chi neu'ch teulu gael mynediad at y rhain, cysylltwch â'ch meddyg teulu i drafod. Dylai fod gan eich meddyg teulu wybodaeth hefyd am ariannu'r profion hyn yn eich ardal, gan fod hyn yn amrywio o fewn a thu allan i'r DU.

Gwasanaeth Metabolaidd

Repertoire Profion Metabolaidd - lawrlwytho neu edrych ar-lein


Cysylltwch â ni

Ymholiadau labordy/ cyffredinol

Lesley Heirene (Uwch Wyddonydd Biofeddygol) - Lesley.Heirene@wales.nhs.uk , 029 21843560

Ymholiadau/cyngor clinigol

Yr Athro Stuart J Moat (Biocemegydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr - Labordy Sgrinio Babanod Newydd-anedig Cymru) - Stuart.Moat@wales.nhs.uk , 029 21843562

Dr Danja Schulenburg-Brand (Ymgynghorydd mewn Biocemeg Feddygol a Meddygaeth Fetabolaidd) - Danja.Schulenburg-brand@wales.nhs.uk , 029 21848359

Gwyddonydd Clinigol 029 21843561

Dilynwch ni