Mae'r gwasanaethau a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth Meddygaeth Labordy yn rhan annatod o ymarfer clinigol, ac fe'u darperir trwy 8 adran unigryw.
Prif rôl y gwasanaeth yw darparu a dehongli gwybodaeth glinigol berthnasol ar gyfer diagnosio, rheoli, canfod ac atal afiechyd yn gynnar trwy ddadansoddi ymchwiliad labordy.
Mae'r Gyfarwyddiaeth yn darparu gwasanaethau i Fwrdd Iechyd y Brifysgol (BIP) ac Ymarferwyr Cyffredinol lleol, ac mae hefyd yn darparu gwasanaethau rhanbarthol yng Nghymru a thu hwnt. Yn ogystal, mae'r Gyfarwyddiaeth yn rheoli gwasanaethau Corffdy a Fflebotomi BIP, a Chynllun Sicrwydd Ansawdd Allanol Cymru (WEQAS).
Pan fo angen clinigol, cynigir y gwasanaeth 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae pob adran wedi cyflawni achrediad allanol fel rhan o ymrwymiad y Gyfarwyddiaeth i wasanaeth o safon.
Dydd Llun - Dydd Gwener
Ysbyty Athrofaol Cymru Suite 15: 8:30AM - 5:00PM
Ysbyty Athrofaol Cymru Gen OPD Fflebotomi: 9:00AM - 1:00PM & 1:30PM - 4:00PM
Fflebotomi Ysbyty'r Barri : 08:30AM -10:00AM, 10:15AM - 12:30PM & 12:30PM - 15:15PM