Neidio i'r prif gynnwy

Labordy Endocrinoleg

Mae'r Labordy Endocrinoleg yn darparu gwasanaeth dadansoddol ac ymgynghorol cynhwysfawr i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac ymchwiliadau arbenigol ar gyfer ysbytai eraill yng Nghymru a ledled y DU. Mae'r adran yn Labordy Meddygol achrededig UKAS Rhif: 8989 ac mae ganddo raglen lawn Sicrhau Ansawdd.

Mae cysylltiadau cryf ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd gydag adolygiad rheolaidd o achosion, datblygu gwasanaethau ac ymchwil.

Cyflwynwyd dulliau sbectrometreg màs ar gyfer nifer o steroidau ac mae ein hadran yn cynnwys y Gwasanaeth Biobrofion Uwchranbarthol (SAS). Ein profion achrededig SAS yw thyroglobwlin, inswlin a c-peptid a 17 (OH) progesteron mewn serwm, sbesimenau smotyn gwaed a sbesimenau poer.

Rydym yn cynnig swyddogaeth gynghori ar gyfer pob asesiad ac yn anelu at sicrhau bod Gwyddonwyr Clinigol a Gwyddonwyr Biofeddygol ar gael sydd wedi'u cofrestru â HCPC ac sydd â chyfrifoldeb penodol am y gwasanaethau hyn, i roi cyngor deongliadol a gwybodaeth gywir mewn ymateb i unrhyw ymholiadau

Gwybodaeth i Gleifion

Ni all cleifion gael mynediad uniongyrchol at y gwasanaethau labordy hyn - mae angen atgyfeiriad gan feddyg teulu neu feddyg arbenigol (yn dibynnu ar y cyflwr dan sylw). Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwasanaethau sydd ar gael a sut y gallwch chi neu'ch teulu gael mynediad at y rhain, cysylltwch â'ch meddyg teulu i drafod. Dylent hefyd fod â gwybodaeth am ariannu'r profion hyn yn eich ardal gan fod hyn yn amrywio o fewn a thu allan i'r DU.

Y Rhestr Gwasanaeth Gyfredol

Repertoire Profion Endocrinoleg - edrychwch ar-lein neu lawrlwythwch

Cysylltiadau

Ymholiadau cyffredinol

Rachel Hunt (Gwyddonydd Biofeddygol Arweiniol)
rachel.hunt@wales.nhs.uk

Cyngor clinigol

Dr Carol Evans (Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol) 
Carol.evans9@wales.nhs.uk ,  029 21848367

Sarah Tennant (Gwyddodydd Clinigol)   
Sarah.tennant@wales.nhs.uk , 029 21845863

Dilynwch ni