Mae'r Adran Biocemeg Feddygol ac Imiwnoleg yn darparu ystod eang o wasanaethau biocemeg glinigol, tocsicoleg ac imiwnoleg o'i labordai yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Athrofaol Llandochau ac Ysbyty Felindre.
Ar hyn o bryd mae'r adran yn delio â mwy na 2500 o samplau bob dydd ac yn cynhyrchu dros 5 miliwn o ganlyniadau dadansoddol bob blwyddyn.
Mae'n darparu gwasanaeth i ofal sylfaenol ac eilaidd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn ogystal â chefnogi gwasanaethau clinigol trydyddol yng Nghaerdydd. Darperir y gwasanaethau labordy arbenigol hyn, gan gynnwys gwasanaethau Biobrofion Uwchranbarthol, i labordai eraill ledled Cymru a'r DU. Mae'r rhain yn cynnwys hormonau peptid a steroid, porffyrinau a phrofion imiwnoleg arbennig.
Mae gwasanaethau cenedlaethol eraill yn cynnwys sgrinio cynenedigol a Sgrinio Newyddenedigol i Gymru, gwasanaethau olrhain metel a phediatreg metabolaidd rhanbarthol.
Mae'r adran yn Labordy Meddygol achrededig UKAS Rhif: 8989
Mae ein hachrediad ISO 15189 wedi'i gyfyngu i'r gweithgareddau hynny a ddisgrifir ar ein hatodlen achrediad UKAS
Cwmpas Hyblyg Sbectromedreg Màs
Fodd bynnag, ni nodir statws achredu pob prawf ar ein hadroddiadau.
Rydym yn cynnig ystod o Wasanaethau Clinigol a Chyngor - gweler pob adran unigol am ragor o wybodaeth.
Cysylltwch â'r labordy petaech angen SLA.
Er mwyn gwella'r gwasanaeth i'n defnyddwyr rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n repertoire Mae dilysiad/dilysu o'r profion hyn wedi 'i' wneud
Mae newidiadau yn cynnwys:
ALEX 2 i ALEX 3 ar MADX 9K
Pecyn turbo calprotectin fecal Buhlmann FCAL ar blatfform Abbott Alinity
IgA-Tissue Transglutaminase (TTG) ar ddadansoddwr BioClia
CSF Asid Amino ar blatfform LCMS QDa Waters
Mae rhai o'r profion hyn bellach y tu hwnt i'n cwmpas achrediad fel yr aseswyd gan UKAS. Mae UKAS wedi cael gwybod a byddant yn asesu'r newidiadau hyn fel estyniad i gwmpas (ETS) ein hachrediad yn ystod 2026. Mae hon yn weithdrefn arferol wrth newid platfformau/methodoleg dadansoddwyr.
Yn ogystal, mae'r adran wedi tynnu Alwminiwm Wrin o'i repertoire.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.