Neidio i'r prif gynnwy

Treialon Clinigol

Mewn cydweithrediad â'r Adran Haematoleg, mae Biocemeg Feddygol ac Imiwnoleg yn cynnig gwasanaeth treialon clinigol ar gyfer:

  • Prosiectau masnachol (a noddir gan gwmni allanol)
  • Prosiectau anfasnachol (a ariennir gan y llywodraeth, er enghraifft y GIG neu adrannau'r brifysgol)

Mae'r ffioedd gweinyddu a sefydlu fel a ganlyn:

Treialon masnachol £250
Treialon anfasnachol < £1500 £50
Treialon anfasnachol >=£1500 £150

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnwys cofrestru'r treial (aseinio rhif unigryw, cwblhau gwaith papur angenrheidiol, darparu labeli ar gyfer y samplau ymchwil), monitro parhaus (cydlynu unrhyw broblemau gyda phrofion, cynhyrchu canlyniadau yn ôl yr angen) a darparu anfoneb unwaith y bydd y treial wedi'i gwblhau.

Am ddyfynbris, cysylltwch â ni gyda'ch gofynion manwl - e-bostiwch Sarah.james2@wales.nhs.uk gyda'r wybodaeth ganlynol:                                         

  • Treial clinigol masnachol neu anfasnachol
  • Y math o brofion sydd eu hangen (gweler ein tudalen hafan adrannol a'r profion sydd ar gael)
  • Nifer y samplau sydd i'w profi
  • Amser dychwelyd gofynnol ar gyfer canlyniadau

Byddwn yn adolygu eich gofynion i sicrhau y gellir eu bodloni, ac os felly, byddwn yn darparu dyfynbris i gyflawni'r profion angenrheidiol.

Wrth gynnal prawf sy'n rhan o dreial clinigol, rhaid iddo fod yn amlwg i bawb sy'n rhan o'r broses mai dyma yw'r achos - rhaid i unrhyw brawf y mae clinigwr yn gofyn amdano nad yw'n arferol, ac na fyddai fel rheol yn cael ei gynnal ar gyfer rheolaeth glinigol y claf hwnnw, gael ei ariannu fel rhan o dreial clinigol (ac ni ddylid gofyn amdano fel prawf safonol GIG).

Cysylltiadau

Sarah James (Cydlynydd Treialon Clinigol)       E-bost: Sarah.james2@wales.nhs.uk

Dr Mike Badminton                                           E-bost: mike.badminton@wales.nhs.uk

Dilynwch ni