Mae PCV, a elwir hefyd yn frechlyn niwmococol cyfun, yn darparu amddiffyniad rhag heintiau niwmococol a achosir gan facteria streptococws niwmoniae.
Gall heintiau niwmococol arwain at heintiau ymledol sy'n peryglu bywyd fel:
Y brechlyn PCV a ddefnyddir yn y DU yw Prenavar 13. Gallwch ddarllen am y cynhwysion yma.
Yng Nghymru, cynigir y brechlyn i fabanod fel mater o drefn yn:
Rhoddir y brechlyn fel pigiad yng nghyhyr clun eich plentyn. Gellir rhoi'r brechlyn ym mraich uchaf eich plentyn hefyd.
Mae babanod a phlant bach dan 2 oed mewn perygl uchel o gael haint niwmococol. Ni allant amddiffyn eu hunain yn naturiol rhag y bacteria.
Beth yw clefyd niwmococol?
Clefyd niwmococol yw'r enw ar grŵp o heintiau a achosir gan germ o'r enw niwmococws. Gall yr heintiau hyn fod yn ysgafn, fel heintiau sinws neu glust, ond mae rhai yn ddifrifol iawn a gallant arwain at:
Sut mae clefyd niwmococol yn lledaenu?
Mae'r germau sy'n achosi haint niwmococol yn lledaenu'n hawdd trwy beswch a thisian, neu drwy gysylltiad agos â phoer neu fwcws.
Beth yw’r symptomau?
Gall symptomau haint niwmococol amrywio, yn dibynnu ar y math o haint sydd gennych. Mae symptomau cyffredin yn cynnwys:
Beth yw'r mathau o haint niwmococol?
Mae heintiau niwmococol fel arfer yn perthyn i un o 2 gategori:
Mae heintiau niwmococol anfewnwthiol yn cynnwys heintiau'r glust neu'r sinysau.
Mae heintiau niwmococol ymledol yn cynnwys heintiau'r gwaed, esgyrn, cymalau, ysgyfaint a'r ymennydd.
Cwestiynau Cyffredin
Pa fabanod allai fod angen brechlynnau niwmococol ychwanegol?
Efallai y bydd angen brechlynnau niwmococol ychwanegol ar rai babanod o dan ddwy flwydd oed. Er enghraifft, y rhai sydd â:
A oes plant na ddylent gael brechlyn niwmococol?
Ychydig iawn o resymau sydd pam na all plant gael eu brechu:
Siaradwch â'r person sy'n rhoi'r brechlyn i'ch babi os yw'ch babi wedi cael adwaith alergaidd difrifol i'r brechlyn neu'r cynhwysion yn y gorffennol.
Siaradwch â'ch meddyg, nyrs ymarfer neu ymwelydd iechyd cyn cael y brechlyn os yw'ch plentyn:
Beth yw'r sgil-effeithiau cyffredin?
Fel yn achos pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau, ond ni fydd pawb yn eu profi. Mae'r rhan fwyaf o sgil-effeithiau yn ysgafn a byddant fel arfer yn gwella ar ôl diwrnod neu ddau.
Mae'r sgil-effeithiau mwyaf cyffredin mewn babanod a phlant yn cynnwys:
Am yr holl sgil-effeithiau ac am ragor o wybodaeth am y brechlyn, ewch yma.
Gallwch roi hylif parasetamol i’ch baban os oes ganddo dymheredd uchel ac os yw’n ymddangos yn sâl ar ôl cael y brechlyn. Darllenwch y cyfarwyddiadau ar y botel yn ofalus a rhowch y cryfder a'r dos cywir i'ch plentyn ar gyfer ei oedran.
Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael eu brechu, sy'n achosi anawsterau anadlu a gall beri iddynt lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae'r adweithiau hyn yn hynod o brin, ac maen nhw’n effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy'n rhoi brechiadau wedi'u hyfforddi i reoli'r adweithiau hyn.
Gall pobl sy'n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am sgil-effeithiau, gallwch ofyn i'r person sy'n rhoi'r brechlyn i'ch babi, ymweld â GIG 111 Cymru neu gysylltu â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111.
Dylech chi roi gwybod am sgil-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy’r Cynllun Yellow Card. Gallwch wneud hyn ar-lein yn Yellow Card neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Yellow Card ar 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).
A ellir rhoi'r brechlyn os yw fy mhlentyn yn sâl ar ddiwrnod yr apwyntiad?
Os oes gan eich plentyn fân salwch heb dwymyn, fel annwyd, dylai gael y brechiad yn ôl yr arfer. Os yw eich plentyn yn sâl â thwymyn ar y diwrnod y mae i fod i gael y brechiad, gohiriwch y brechiad nes ei fod yn well.
Pam mae angen pigiadau atgyfnerthu?
Mae angen mwy nag un dos o rai brechlynnau ar fabanod i adeiladu amddiffyniad cryf a pharhaol.
Mae pob dos yn helpu'r system imiwnedd i gryfhau ei hymateb i'r clefydau sydd wedi'u cynnwys yn y brechlyn.
Mae'r dos cyntaf yn dechrau dysgu'r system imiwnedd sut i adnabod y clefydau hyn.
Mae'r ail ddos yn helpu i adeiladu amddiffyniad cryfach.
Mae cael yr holl ddosau a argymhellir yn helpu i ddarparu'r amddiffyniad gorau posibl yn erbyn heintiau niwmococol
Beth sy'n digwydd yn yr apwyntiad?
Bydd y nyrs practis neu'r meddyg teulu yn esbonio'r brechiadau ac yn ateb eich cwestiynau. Ar gyfer babanod, rhoddir y brechlyn trwy bigiad yn y glun. Ar gyfer plant dros 12 mis oed, fel arfer rhoddir pigiadau yn rhan uchaf y fraich.
Ysgrifennwch unrhyw gwestiynau sydd gennych a gofynnwch nhw i'r gweithiwr iechyd proffesiynol yn yr apwyntiad brechu.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.