Mae Brechu yn achub bywydau. Brechu yw'r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i amddiffyn ein hunain a'n plant rhag salwch.
Mae'n bwysig bod pob plentyn a baban yn cael eu himiwneiddio'n llawn i'w diogelu rhag afiechydon difrifol posibl. Mae salwch a fu unwaith yn gyffredin, fel difftheria a thetanws, bellach yn brin yn y DU oherwydd imiwneiddio. Ond er bod polio wedi’i ddileu yn Ewrop, nid yw bygythiad afiechydon eraill, fel y frech goch a llid yr ymennydd, wedi diflannu yn y DU heddiw.
Dylai rhieni sydd â phryderon neu ymholiadau am unrhyw agwedd ar imiwneiddio eu plentyn eu trafod gyda'u Meddyg Teulu, Ymwelydd Iechyd, Nyrs eu Meddygfa neu’r Nyrs Ysgol.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.