Mae'r gwasanaeth niwrolidiol yn ymfalchïo mewn arwain ar ystod o astudiaethau ymchwil, i wella gwybodaeth am gyflyrau niwrolidiol. Rydym yn cynnal prosiectau ymchwil sy'n cwmpasu astudiaethau clinigol, biocemegol, delweddu a genetig.
Mae astudiaeth SNOWDONIA yn ymchwilio i ganlyniadau hirdymor sglerosis ymledol ac anhwylderau niwrolidiol. Efallai y cysylltir â chi yn y clinig i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon.
Rydym hefyd yn cynnal nifer o dreialon clinigol cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym yn sgrinio ein poblogaeth cleifion yn rheolaidd a byddwn yn cysylltu â chi os credwn eich bod yn gymwys ar gyfer yr astudiaethau hyn.
Gallwch gysylltu â'r tîm ymchwil ar 029 218 43454 / 029 218 43798, yn msdata@caerdydd.ac.uk, neu siarad ag aelod o'r tîm niwrolidiol os hoffech gael gwybod mwy neu gymryd rhan mewn ymchwil.
Yr Athro Neil Robertson
Mae Neil Robertson yn Athro Niwroleg Glinigol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn bennaeth yr adran MS. Hyfforddodd yn Ysbyty St Thomas, Llundain, Bryste, Caergrawnt ac yna'r Ysbyty Cenedlaethol ar gyfer Niwroleg a Niwrolawdriniaeth yn Llundain. Fe’i penodwyd yn Niwrolegydd Ymgynghorol yng Nghaerdydd ym 1999 ac wedyn yn Athro Niwroleg yn 2010. Mae'r Athro Robertson yn arwain rhaglen ymchwil ar anhwylderau niwrolidiol y system nerfol ganolog ac epidemioleg a geneteg sglerosis ymledol. Mae wedi gwasanaethu fel Trysorydd a Chadeirydd Grŵp Cynghori ar gyfer Cymdeithas Niwrolegwyr Prydain (ABN), ac mae’n cyfrannu at sawl panel adolygu ymchwil gan gynnwys yr MS Society, rhaglen gymrodoriaeth ABN y DU a Parkinson’s UK yn ogystal â nifer o fyrddau rheoli treialon clinigol, ac mae’n gyfarwyddwr Banc Meinweoedd Ymchwil Niwrowyddoniaeth Cymru.
Dr Emma Tallantyre
Hyfforddodd Emma Tallantyre yn Nottingham lle cwblhaodd PhD yn archwilio MRI a phatholeg sglerosis ymledol. Cwblhaodd ei hyfforddiant yn Ne Cymru yn 2016 ac mae bellach yn gweithio fel niwrolegydd academaidd gyda thîm MS Caerdydd. Mae’n rhannu ei hamser rhwng gwaith clinigol ac ymchwil, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn astudio canlyniadau clefydau mewn pobl ag MS, helpu i ddatblygu treialon clinigol cenedlaethol a rhyngwladol, ac ymgysylltu â’r cyhoedd mewn gwaith ymchwil. Yn ystod y pandemig COVID-19, arweiniodd Dr Tallantyre ar waith i ddeall ymatebion brechlyn yn well mewn pobl ag MS. Mae'r gwaith wedi llywio canllawiau i bobl sy'n byw gydag MS. Yn ddiweddar, mae Dr Tallantyre wedi sefydlu rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer ymchwilwyr MS y DU i annog cydweithio i fynd i'r afael â chwestiynau ymchwil.
Dr Mark Willis
Graddiodd Dr Willis mewn meddygaeth o Brifysgol Caerdydd yn 2006, ar ôl cwblhau BSc ychwanegol mewn patholeg gellog a moleciwlaidd fel rhan o'i astudiaethau. Cyflawnodd hyfforddiant arbenigol meddygol a niwroleg cyffredinol ar draws De Cymru, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu hefyd yn gweithio fel cymrawd addysgu clinigol (gan ennill tystysgrif ôl-raddedig mewn addysg feddygol o Brifysgol Dundee) a chwblhau PhD o Brifysgol Caerdydd ym maes imiwnoleg MS, gyda chefnogaeth gan gymrodoriaeth hyfforddiant ymchwil glinigol gan Ymddiriedolaeth Wellcome. Ymunodd Dr Willis â’r tîm MS fel niwrolegydd ymgynghorol ym mis Ionawr 2022 ac mae’n parhau i fod â diddordeb mewn addysgu israddedig ac ôl-raddedig yn ogystal ag ymchwil MS. Mae gan Dr Willis hefyd ddiddordeb cynyddol yng nghymhlethdodau niwrolegol imiwnotherapi canser newydd.
Dr Sam Loveless (Rheolwr Banc Meinweoedd Ymchwil Labordy/Niwrowyddoniaeth Cymru)
Ymunodd Sam â’r tîm ymchwil MS yn 2009 a daeth yn Rheolwr Banc Bio yn 2017. Mae hi’n goruchwylio gweithrediadau dyddiol y Labordy Ymchwil Niwrowyddorau Clinigol gan gynnwys y Grŵp Ymchwil MS, Banc Meinweoedd Ymchwil Niwrowyddoniaeth Cymru, ac ymchwil meinweoedd dynol Trwsio’r Ymennydd a Niwro-therapiwteg Rhyng-greuanol (BRAIN) sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru, safle Prifysgol Caerdydd. Mae Sam yn gyfrifol am reoli’r holl waith prosesu, storio ac adalw samplau biolegol dynol ac mae’n arwain ar gynnal cymeradwyaeth foesegol a lleol, gweithredu gweithdrefnau llywodraethu, protocolau gweithredu safonol, taflenni gwybodaeth cleifion a ffurflenni caniatâd. Mae'n darparu hyfforddiant i glinigwyr ac ymchwilwyr ac yn cysylltu â chydlynwyr ymchwil y DU ac ymchwilwyr cydweithredol. Mae Sam hefyd wedi bod yn allweddol wrth sefydlu a chydlynu biostorfeydd canolog ar gyfer nifer o dreialon clinigol cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys DELIVER, DECISIVE ac OCTOPUS.
Dr Valerie Anderson (Rheolwr Ymchwil)
Ymunodd Valerie â’r tîm ymchwil MS fel cynorthwyydd ymchwil yn 2016. Cyn hynny bu’n gweithio fel ymchwilydd mewn niwrowyddorau clinigol yn UCL a Phrifysgol Auckland, a chyflawnodd ei PhD yn 2008 (yn ymchwilio i’r defnydd o MRI i fonitro datblygiad clefydau mewn MS). Mae Valerie yn cefnogi’r tîm ymchwil MS mewn sawl maes gan gynnwys rheoli'r cymeradwyaethau rheoleiddio sydd eu hangen ar gyfer ymchwil, cydgysylltu astudiaethau, casglu a dadansoddi data, a chynnwys y cyhoedd/cleifion.
Cynthia Butcher (Nyrs Ymchwil)
Mae Cynthia wedi gweithio yn y niwrowyddorau ers cymhwyso fel nyrs yn 1989. Cyn hynny bu’n gweithio ym maes ymchwil Parkinson a Huntington ac mae wedi bod yn gweithio yn y tîm fel nyrs ymchwil MS ers 2015. Mae Cynthia yn cynnal cysylltiadau cryf rhwng y timau ymchwil a chlinigol, ac mae'n mynychu'r cyfarfod tîm amlddisgyblaethol wythnosol. Mae hi'n chwarae rhan hanfodol wrth gyflwyno'r treialon MS sy’n cael eu cynnal yn yr adran (e.e. DELIVER, MS-STAT2, HERCULES/PERSEUS). Mae hyn yn cynnwys ymweliadau ymchwil personol, cyswllt ffôn â chyfranogwyr, a chynnal gwaith papur ar gyfer yr astudiaethau. Mae Cynthia yn sgrinio ein poblogaeth cleifion i nodi cyfranogwyr posibl ar gyfer unrhyw astudiaethau newydd sy'n cael eu sefydlu.
Andrew Thomas (Uwch Dechnegydd Ymchwil)
Ymunodd Andrew â thîm MS Research yn 2022. Ymunodd â Phrifysgol Caerdydd yn 2002 a darparodd gymorth technegol, cyngor a hyfforddiant mewn sawl rôl yn cynnwys imiwnoleg, geneteg a chemeg protein. Mae hefyd wedi arwain a chymryd rhan mewn prosiectau ymchwil sy'n canolbwyntio'n bennaf ar imiwnoleg gynhenid. Ar hyn o bryd mae'n ymwneud â phrosesu samplau, trin data a chynnal a chadw offer.
Megan Voisey (Nyrs Ymchwil)
Graddiodd Megan gyda gradd anrhydedd mewn Nyrsio oedolion yn 2014. Bu’n gweithio ym maes niwrolawdriniaeth ac wedi hynny ymunodd â’r tîm niwrowyddoniaeth ac ymchwil MS yn 2019. Mae hi'n cefnogi'r tîm ymchwil MS ar sawl prosiect mewn gwahanol ffyrdd gan gynnwys cydlynu astudiaethau, cynnwys cleifion, casglu data a samplau, a rheoli cronfeydd data.
Jayne Howlett (Gweinyddwr Ymchwil)
Ymunodd Jayne â’r tîm ymchwil yn 2022, ar ôl gweithio yn y GIG ers 2008, yn fwyaf diweddar fel cydlynydd clinig. Mae Jayne yn gweithio ar yr astudiaeth DELIVER-MS, gan wneud y galwadau ffôn bob tri mis i gyfranogwyr a chydlynu apwyntiadau MRI. Mae hi hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn astudiaeth NEuRoMS, gan anfon gwahoddiadau sgrinio a chynhyrchu adroddiadau ar gyfer y tîm clinigol.
Catherine McConnell (Gweinyddwr)
Cat yw gweinyddwr adrannol y niwrowyddorau, ac mae'n cynorthwyo'r tîm ymchwil gyda nifer o astudiaethau.
SNOWDONIA (Astudiaeth o Ganlyniadau Niwrolidiol yng Nghymru: Bioleg clefydau, Arsylwi a Niwroddelweddu)
SNOWDONIA yw ein hastudiaeth hirsefydlog o MS/epidemioleg niwrolidiol (achosion afiechyd a chanlyniadau iechyd mewn poblogaethau). Mae dros 2000 o bobl wedi cydsynio i gymryd rhan yn yr astudiaeth ers iddi ddechrau. Mae'r astudiaeth yn defnyddio data clinigol a gasglwyd yn ystod ymweliadau arferol â'r GIG i ymchwilio i gwrs afiechyd MS, ac effaith therapïau addasu clefydau. Yn ogystal, mae samplau gwaed a roddwyd gan gyfranogwyr yr astudiaeth yn ein galluogi i ymchwilio i fiofarcwyr afiechyd. Nid oes rhaid i gyfranogwyr newid eu gofal arferol na mynychu ymweliadau ychwanegol ar gyfer yr astudiaeth hon. Efallai y bydd y clinig yn cysylltu â chi i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon.
Banc Meinweoedd Ymchwil Niwrowyddoniaeth Cymru (WNRTB)
Mae’r WNRTB yn gyfleuster biofancio sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd, wedi’i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae'n cynnig samplau biolegol dynol o ansawdd uchel ar gyfer ymchwil i glefydau niwrolegol. Mae'r casgliad yn cynnwys samplau fel gwaed, DNA a hylif yr ymennydd gan bobl ag anhwylderau niwrolidiol, epilepsi, clefyd niwronau motor, tiwmorau ar yr ymennydd, a chyflyrau niwrolegol eraill. Daw ceisiadau i ddefnyddio samplau o sefydliadau academaidd ledled y DU a thramor. Rydym hefyd yn croesawu samplau gwaed gan wirfoddolwyr iach. Darganfyddwch fwy am WNRTB https://brain.wales/biobanking/
DELIVER-MS
Mae astudiaeth ryngwladol DELIVER-MS yn ymchwilio i weld a yw triniaeth gynnar gyda therapïau addasu clefydau hynod effeithiol yn gwella canlyniadau i bobl ag MS. Bydd canlyniadau'r astudiaeth hon yn helpu i arwain dulliau triniaeth cyffredinol o safbwynt therapïau presennol yn ogystal â therapïau newydd yn y dyfodol. Mae dros 80 o gyfranogwyr yn cymryd rhan yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Darganfyddwch fwy am DELIVER-MS. https://deliver-ms.com/
NEuRoMS (Gwerthuso ac Adsefydlu Niwroseicolegol mewn MS)
Nod NEuRoMS yw datblygu asesiad arferol o broblemau gwybyddol ar gyfer pawb sydd ag MS. Os ydych yn mynychu clinig GIG ar gyfer MS, efallai eich bod wedi derbyn dolen i gwblhau cyfres o holiaduron a/neu dasgau cyn eich apwyntiad. Bydd yr astudiaeth hefyd yn datblygu rhaglen adsefydlu niwroseicolegol fer. Byddai'r rhaglen hon yn cael ei defnyddio i helpu pobl ag anawsterau gwybyddol ysgafn neu gymedrol mewn sefyllfaoedd bob dydd. Darganfyddwch fwy am NEuRoMS. https://neuroms.org/
Octopus
Treial Octopus yw'r treial aml-gangen, aml-gam cyntaf mewn MS. Mae'r math hwn o gynllun treial yn golygu bod modd profi cyffuriau lluosog ar unwaith, gan arwain at brofi triniaethau posibl yn gyflymach. Ei nod yw dod o hyd i driniaethau a all arafu, ac yn y pen draw atal, datblygiad anabledd mewn pobl ag MS. Nod yr astudiaeth yw recriwtio o leiaf 1200 o bobl ag MS sy’n gwaethygu, a bydd pobl yn ymuno â'r treial yn raddol dros y chwe blynedd nesaf. Disgwylir i'r broses recriwtio yng Nghaerdydd agor yn 2023. Darganfyddwch fwy am Octopus https://www.mssociety.org.uk/research/explore-our-research/research-we-fund/search-our-research-projects/octopus ac i gofrestru ar gyfer treial OCTOPUS: https:// /ukmsregister.org/octopus
Astudiaethau parhaus eraill
MS-STAT2 (ar gau i recriwtio)
Mae MS-STAT2 yn arbrawf cam 3 sy'n archwilio a all simvastatin arafu neu atal datblygiad anabledd mewn pobl ag MS eilaidd sy’n gwaethygu. Dysgwch fwy am MS-STAT2 yma: https://www.mssociety.org.uk/research/latest-research/latest-research-news-and-blogs/ms-stat2-trial-for-secondary-progressive-ms-begins-recruitment-across-the-uk
HERCULES (ar gau i recriwtio) a PERSEUS
Treialon cam 3 yn ymchwilio i weld a all tolebrutinib arafu datblygiad MS eilaidd sy’n gwaethygu (HERCULES) ac
MS sy'n gwaethygu'n raddol o'r dechrau'n deg heb unrhyw gyfnodau o wella o gwbl (PERSEUS). Dysgwch fwy am HERCULES a PERSEUS yma: https://www.mssociety.org.uk/research/explore-our-research/research-we-fund/search-our-research-projects/tolebrutinib
ChariotMS
Treial yw ChariotMS sy'n ymchwilio i weld a all cladribine helpu pobl ag MS i barhau i ddefnyddio eu breichiau a'u dwylo. Dysgwch fwy am ChariotMS yma; https://www.mssociety.org.uk/research/explore-our-research/research-we-fund/search-our-research-projects/chariotms-can
O’HAND
Nod yr astudiaeth hon yw recriwtio 1000 o bobl ag MS sy'n gwaethygu'n raddol o'r dechrau'n deg heb unrhyw gyfnodau o wella o gwbl, i ymchwilio i weld a yw ocrelizumab yn arafu datblygiad anabledd y breichiau.
ARTIOS (ar gau i recriwtio)
Mae'r astudiaeth hon yn gwerthuso effeithiolrwydd ofatumumab a'r canlyniadau a adroddir gan gleifion mewn tua 550 o gleifion ag MS atglafychol sy’n trosglwyddo o therapi dimethyl fumarate neu fingolimod.
StarMS
Nod StarMS yw cymharu effeithiolrwydd a phroffil diogelwch Trawsblannu Bôn-gelloedd Gwaedfagol Awtologaidd (aHSCT) yn erbyn therapïau addasu clefydau 'effeithiol iawn' (ocrelizumab, alemtuzumab, cladribine ac ofatumumab). Nod yr astudiaeth yw recriwtio 198 o gyfranogwyr o 19 o safleoedd ar draws y DU. Dysgwch fwy am StarMS yma: https://www.sheffield.ac.uk/scharr/research/centres/ctru/starms
Cylchlythyrau
Ymchwil MS:
Newsletter 2021
Newsletter 2020
Newsletter 2019
Newsletter 2018