Neidio i'r prif gynnwy

Y bledren a'r coluddyn

Pwy ydw i?  

Ymunodd Rebecca (Becky) Parry â’r tîm MS yn 2022 ar ôl gweithio’n flaenorol fel nyrs gofrestredig ar wardiau meddygaeth gyffredinol, ac fel nyrs ardal yng Nghaerdydd. Trwy ei rolau blaenorol datblygodd Becky ddiddordeb mewn iechyd y bledren a’r coluddyn a darparodd ofal nyrsio i lawer o gleifion MS, gan arwain at ddiddordeb pellach yn y maes hwn.  

 

Beth ydw i’n ei wneud?    

Gall MS effeithio ar y bledren a'r coluddyn mewn sawl ffordd. Rwy’n cynnal asesiad llawn o symptomau parhaus neu gymhleth o’r bledren a’r coluddyn na ellir eu rheoli trwy driniaeth draddodiadol gan eich meddyg teulu. Rwy'n darparu cyngor ac arweiniad ar y ffordd orau o reoli'ch symptomau, a rhoi triniaeth a/neu atebion personol ar waith sy'n cyd-fynd â'ch bywyd o ddydd i ddydd.   

 

Beth i'w ddisgwyl?    

Rwy'n ymdrechu i greu amgylchedd di-farn lle gallwn siarad am symptomau ac unrhyw bryderon, ac ymdrin â phynciau sensitif, heb unrhyw embaras. Fy nod yw sicrhau atebion ymarferol i symptomau trafferthus, gan wella ansawdd eich bywyd bob dydd.    

 

 

 

Dilynwch ni