Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Nyrsys Clinigol Arbenigol

Mae Jacki Smee yn nyrs glinigol arbenigol Sglerosis Ymledol. Hyfforddodd yng Nghaerdydd a chymhwysodd yn 1991. Mae hi wedi gweithio mewn Niwroleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac ar yr Uned Gofal Dwys Niwrolegol yn Rhydychen. Daeth yn nyrs MS yn 2003 a bu’n ymwneud â sefydlu clinigau dan arweiniad nyrsys MS a datblygiad parhaus y gwasanaeth. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn ymchwil a thriniaethau mewn MS.  

 

Mae Rhiannon Jones yn Nyrs Glinigol Arbenigol Sglerosis Ymledol. Ymunodd â'r Ymddiriedolaeth yn 1986 fel nyrs gymwysedig a gweithiodd ar y ward Niwroleg am un mlynedd ar ddeg, ac yn ystod y cyfnod hwnnw helpodd i sefydlu a rhedeg gwelyau'r Uned Ddydd Niwroleg sydd bellach wedi datblygu i fod yn Uned Ddydd Niwroleg. Ymunodd Rhiannon â'r Tîm MS yn 2000 pan oedd tri aelod yn unig ac mae wedi gwylio'r tîm yn tyfu mewn cryfder ac aelodau. Mae Rhiannon yn rhedeg clinigau rheoli symptomau wyneb yn wyneb a dros y ffôn yng Nghaerdydd ac yn gweithio yn yr Uned Ddydd Niwroleg yn gweinyddu Triniaethau Addasu Clefydau (DMT) ynghyd â thriniaethau Niwroleg eraill. Mae Rhiannon hefyd yn cefnogi'r cleifion Neuromyelitis Optica (NMO).

 

Mae Sian Locke yn Nyrs Glinigol Arbenigol Sglerosis Ymledol. Hyfforddodd yng Nghaerdydd a chymhwysodd yn 1990. Bu’n gweithio ym maes niwroleg am 20 mlynedd cyn ymuno â’r Tîm MS yn 2010. Mae Sian yn ymwneud â rhedeg clinigau dan arweiniad nyrsys yng Nghwm Taf ac yng Nghaerdydd. Mae hi hefyd yn gweithio yn yr uned ddydd Niwrolegol. Mae ganddi ddiddordeb arbenigol mewn rhywioldeb, rhyw ac MS ac mae'n parhau i ddatblygu ei sgiliau a'i harbenigedd yn y maes hwn o nyrsio MS.   

 

Mae Laura Davies yn Nyrs Gymorth Sglerosis Ymledol. Cymhwysodd yn 2004 ac mae wedi gweithio o fewn yr adran Niwrowyddorau ers hynny gyda phrofiad mewn Niwroleg, Niwrolawdriniaeth, Niwroadsefydlu ac Anafiadau i’r Asgwrn Cefn yn y DU a thramor. Ymunodd â’r tîm MS yn 2020 ac mae ei rôl wedi cynnwys gweithio yn yr uned trwythiadau yn rhoi Triniaethau Addasu Clefydau (DMT), monitro gwaed DMT a chynnal clinigau rheoli symptomau. Mae ganddi ddiddordeb mewn Ymchwil, MS Uwch ac ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer MSc mewn Ymarfer Gofal Iechyd Uwch.  

 

Mae Lynn Kelly-Jones yn Nyrs Glinigol Arbenigol Sglerosis Ymledol. Hyfforddodd yng Nghaerdydd a chymhwysodd yn 2005 ac ers hynny mae wedi gweithio ym maes Niwrolawdriniaeth a Niwroleg. Ymunodd Lynn â’r tîm MS yn 2014 fel Nyrs Gymorth ac yna daeth yn Nyrs Glinigol Arbenigol yn 2018. Mae Lynn bellach yn rhedeg clinigau rheoli symptomau wyneb yn wyneb a dros y ffôn a hefyd clinigau monitro gwaed rhithwir yng Nghwm Taf a Chaerdydd ac mae hefyd yn gweithio yn yr Uned Ddydd Niwroleg.

 

 

Dilynwch ni