Neidio i'r prif gynnwy

Therapydd Galwedigaethol

Graddiodd Joanna Rutkowska-Wheeldon o Brifysgol Gorllewin Lloegr ac mae hi'n aelod o Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol. Mae Joanna wedi bod yn Therapydd Galwedigaethol y GIG ers dros 10 mlynedd ac wedi gweithio yn y maes niwroleg am y 8 mlynedd diwethaf. Mae Joanna yn Therapydd Galwedigaethol Arbenigol MS sy'n gweithio fel rhan o'r Tîm Amlddisgyblaethol MS.  

Beth ydw i’n ei wneud?  

Fy rôl i yw asesu anghenion galwedigaethol i gefnogi annibyniaeth mewn gweithgareddau dyddiol i wneud y gorau o ganlyniadau swyddogaethol gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, addysg a chyflogaeth.   

Gallaf ddarparu asesiad o wybyddiaeth a darparu strategaethau i gefnogi namau gwybyddol.   

Mae gennyf rôl mewn addysg a chymorth gyda blinder sy'n gysylltiedig ag MS a symptomau eraill sy'n gysylltiedig ag MS.    

 

Beth i'w ddisgwyl?   

Gallaf eich ffonio i drafod eich cwestiynau, eich anghenion a’ch disgwyliadau.    

Efallai y byddaf yn cynnig cyngor, awgrymiadau a gwybodaeth dros y ffôn, galwad fideo neu gynnig apwyntiad clinig neu ymweliad cartref i chi.    

Efallai y byddaf yn eich cyfeirio neu’n eich atgyfeirio at eich gwasanaethau lleol i gael asesiad a thriniaeth bellach.   

Efallai y byddaf yn cynnig lle i chi mewn grŵp MS penodol neu'n eich cyfeirio at y grwpiau a'r dosbarthiadau Niwroleg cyffredinol.   

 

 

Grwpiau:   

Mae Living Well with MS yn grŵp sy'n cael ei gynnal mewn partneriaeth ag MS Society.  Mae'r grŵp hwn yn rhedeg mewn bloc o 5 sesiwn 4 gwaith y flwyddyn.  Yn ystod y sesiynau byddwch yn clywed gan MS Society am eu cefnogaeth gan gynnwys cyflogaeth a budd-daliadau. Byddwch hefyd yn cwrdd â'r tîm a fydd yn trafod amrywiaeth o bynciau gan gynnwys rheoli blinder, cadw'n actif yn gorfforol ac yn wybyddol, cydberthnasau a rhyw, rheoli straen a gorbryder.   

 

Mae Manging MS through Relaxation yn grŵp sy'n rhedeg bob mis. Yn ystod y sesiynau byddwch yn clywed am wahanol fathau o dechnegau ymlacio a sut y gall y rheini eich cefnogi i reoli amrywiaeth o symptomau cysylltiedig ag MS. Daw pob sesiwn grŵp i ben gyda sesiwn ymlacio wahanol.   

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn unrhyw un o'r grwpiau, siaradwch â mi neu aelod arall o'r tîm a fydd yn gwneud atgyfeiriad.   

 

Therapi Galwedigaethol Cymunedol   

Os oes gennych unrhyw broblemau gydag offer neu angen ei newid am unrhyw reswm, yn y lle cyntaf, siaradwch â'r Tîm Therapi Galwedigaethol cymunedol a'i darparodd.  

Os oes angen gwybodaeth arnoch am addasiadau, cysylltwch â'ch Tîm Therapi Galwedigaethol cymunedol lleol.   

Dilynwch ni