Gyrru yw un o'r nifer o ffyrdd rydym yn cynnal ein hannibyniaeth ond mae hefyd yn un o'r gweithgareddau mwyaf cymhleth yn ein bywydau bob dydd. Er y gall symptomau sy'n gysylltiedig ag MS effeithio ar y sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer gyrru'n ddiogel, gall offer ceir addasol fod yn opsiwn i'ch helpu i yrru'n ddiogel.
Os oes gennych drwydded yrru, mae'n rhaid i chi ddweud wrth yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) eich bod wedi cael diagnosis o MS. Byddant yn asesu eich ffitrwydd i yrru gan ddefnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych, ac efallai y byddant yn gofyn i chi gael archwiliad meddygol neu asesiad gyrru.
Mae gan wefan GOV UK fwy o wybodaeth am sglerosis ymledol a gyrru
Ni fydd colli ychydig bach o reolaeth ar eich cyhyrau o reidrwydd yn effeithio ar eich gallu i yrru car, ond mae angen i chi ddangos digon o ddeheurwydd i weithredu’r car yn ddiogel. Os oes angen addasiadau arnoch i yrru, yna bydd y rhain yn cael eu nodi ar eich trwydded. Ni chaniateir i chi yrru car hebddyn nhw.
Mae cof a chanolbwyntio, ymwybyddiaeth ofodol o leoliad pethau, a phrosesu gwybodaeth yn feddyliol yn glir, hefyd yn bwysig i yrwyr. Gall asesiad mewn canolfan symudedd helpu i nodi a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau.
Gallwch chi gael dirwy o hyd at £1,000 os na fyddwch yn dweud wrth y DVLA am gyflwr meddygol sy'n effeithio ar eich gallu i yrru. Gallech chi gael eich erlyn pe baech chi’n cael damwain o ganlyniad i hynny.
Mae gan y Gymdeithas MS fwy o wybodaeth am yrru a'r DVLA, gan gynnwys gyrru gydag addasiadau a'r cynllun bathodyn glas.
Mae angen i chi ddweud wrth eich cwmni yswiriant car am eich cyflwr ac am unrhyw addasiadau sydd gennych.
Ni ddylai’r ffaith bod gennych sglerosis ymledol eich atal rhag mwynhau gwyliau gyda'ch teulu neu'ch ffrindiau. Os oes gennych bryderon am gostau, offer neu hygyrchedd, gall yr Ymddiriedolaeth MS a’r Gymdeithas MS ddarparu rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol.