Neidio i'r prif gynnwy

Ein Gwasanaeth

Mae'r gwasanaeth MS wedi'i leoli yng Nghanolfan Helen Durham yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Fe'i sefydlwyd gyntaf yn 2003, ac mae'r gwasanaeth wedi tyfu'n sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae'r tîm MS yn cynnwys Niwrolegwyr, nyrsys arbenigol, therapyddion a staff gweinyddol. Rydym yn gwasanaethu Byrddau Iechyd Caerdydd a’r Fro, a Chwm Taf Morgannwg, gan ddarparu gofal MS arbenigol i 2000+ o gleifion MS.   

Mae'r tîm yn cefnogi cleifion ag MS ar adeg y diagnosis, yn darparu cyngor a chymorth ynghylch triniaethau addasu clefydau (DMTs), a chyngor, addysg a chymorth parhaus i bobl sy'n byw gydag MS.   

Mae yna hefyd dîm ymchwil sy'n gweithio'n agos gyda'r tîm MS yn edrych ar achos y clefyd a sut i’w atal. Maent yn cymryd rhan mewn nifer o astudiaethau ymchwil a threialon clinigol, gyda chysylltiadau agos â Phrifysgol Caerdydd.   

Dilynwch ni