Neidio i'r prif gynnwy

Edrych ar ôl fy hun

Edrych ar ôl fy hun

Mae dal yn bwysig sicrhau eich bod yn mynychu eich holl sgriniadau arferol e.e. mamogramau, sgrinio serfigol, sgrinio'r prostad, sgrinio'r coluddyn a sgriniadau eraill perthnasol.

Pan fyddwch chi'n byw gydag MS, mae yna lawer o ffyrdd i wella'ch iechyd ar wahân i feddyginiaethau.

Mae bwyta'n iach yn bwysig. Mae llawer o adroddiadau am wahanol ddeietau y mae pobl yn rhoi cynnig arnynt ar gyfer MS a gall fod yn ddryslyd penderfynu pa ddeiet sydd orau. Mae astudio'r deiet gorau ar gyfer MS yn heriol, felly mae data o ansawdd da yn brin. Mae hefyd yn wir y gall cyfyngu ar eich deiet mewn ffordd eithafol iawn gyflwyno straen diangen ychwanegol i'ch bywyd.

Ar y cyfan, rydym yn argymell deiet Môr y Canoldir, sy'n cynnwys llawer o ffrwythau, llysiau, pysgod, cnau a hadau, ac sy’n isel mewn cynnyrch llaeth a chig coch. Mae llawer o bobl ag MS yn dewis ychwanegu fitamin D at eu diet gan fod rhywfaint o dystiolaeth (er yn wan) bod fitamin D yn helpu i wella canlyniadau MS. Os dewiswch ychwanegu fitamin D at eich deiet, rydym yn argymell dos o 4-500IU y dydd.

Ymarfer corff

Yn y gorffennol, cynghorwyd pobl â sglerosis ymledol i osgoi gormod o ymarfer corff. Teimlwyd, gan fod llawer o bobl ag MS yn profi blinder ac yn canfod bod eu symptomau'n gwaethygu pan fyddant yn boeth, ei bod yn well osgoi gweithgareddau y gellid ystyried eu bod yn peri blinder.

Mae'n debyg nad oedd hwn yn gyngor da. Erbyn hyn, gwyddys bod ymarfer corff rheolaidd, cymedrol yn rhan bwysig o gynnal iechyd a lles da i bobl ag MS. Mae tystiolaeth y gall helpu gyda llawer o symptomau MS, a hefyd gydag ansawdd bywyd cyffredinol.

Dangoswyd bod ymarfer corff cymedrol yn gwella cryfder, symudedd a gweithrediad y coluddyn a'r bledren ar gyfer pobl ag MS ysgafn i gymedrol. Mae ymarfer corff hefyd yn ddefnyddiol wrth helpu i gynnal pwysau iach. Mae hyn yn lleihau eich siawns o gael cydafiacheddau a gall hefyd leihau effaith rhai symptomau MS, fel poen a blinder.

Mae ymarfer corff yn dda i'r meddwl a'r ymennydd, nid y corff yn unig. Yn gyffredinol, canfuwyd bod ymarfer corff yn niwro-amddiffynnol, yn gwella symptomau iselder ac yn cyflymu prosesu gwybyddol, ac yn gwella cof gweledol-ofodol, swyddogaeth weithredol a hyblygrwydd gwybyddol. Gall yr hwb y byddwch chi’n ei gael o wneud ymarfer corff bara am sawl diwrnod wedi hynny.

Os oes angen cyngor arnoch ar sut i gadw'n gorfforol egnïol, cysylltwch â'n tîm. 

Cynghorir eich bod ond yn yfed alcohol o fewn y terfynau a argymhellir (14 uned yr wythnos). Mae hyn oherwydd bod gormod o alcohol yn wael i iechyd cyffredinol yr ymennydd, ac felly gallai waethygu'ch MS mewn egwyddor.

Rhoi'r gorau i ysmygu

Ar wahân i effeithiau andwyol cyffredinol ar iechyd, mae tystiolaeth bod ysmygu tybaco yn wael i MS. Os hoffech gael cyngor neu gymorth i roi'r gorau i ysmygu, ewch i'n tudalennau Rhoi'r Gorau i Ysmygu neu cysylltwch â'r tîm Helpa Fi i Stopio.

Cwsg/Straen

Gall derbyn diagnosis o MS a byw gyda symptomau o ddydd i ddydd roi straen ar bobl, sy’n gwbl ddealladwy. Mae rhoi amser i chi'ch hun yn bwysig iawn i'ch galluogi i addasu a lleihau straen. Os ydych chi'n cael problemau i addasu i'ch diagnosis neu reoli straen, edrychwch ar rai o'r adnoddau hunangymorth isod a rhowch wybod i ni os hoffech chi siarad am atebion posibl eraill.

Gwybyddiaeth

Os ydych yn cael trafferth gyda'ch cof a'ch meddwl, cysylltwch â'ch nyrs MS a gallwn drafod eich achos a rhoi cyngor. (link to NeuroMS resources)

Grwpiau 

Staying Smart | Ymddiriedolaeth MS??

Adnoddau defnyddiol

  • Mae'r Gymdeithas MS yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau cymorth rhithwir, gan gynnwys gweminarau gwybodaeth, caffi sgwrsio, cyrsiau lles a sesiynau sgiliau lles.
  • Mae gan y Gymdeithas MS wybodaeth am gadw'n heini, gan gynnwys manteision ymarfer corff, fideos ymarfer corff syml ac ymarferion ar gyfer symptomau penodol.
  • Mae gan NHS UK ystod o ganllawiau ymarfer corff a sesiynau ymarfer corff i helpu i wella'ch ffitrwydd a'ch lles.
  • Mae'r Ymddiriedolaeth Sglerosis Ymledol yn elusen yn y DU sydd â chyfoeth o wybodaeth am MS a byw gydag MS.
  • Mae Stepiau yn wasanaeth a ddatblygwyd gan y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol (PMHSS) ar gyfer pobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg sy'n byw gydag anawsterau iechyd meddwl fel straen, gorbryder, neu iselder.
  • Mae Valleys Steps yn cynnig cyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar a lles.
  • Mae NHS UK Every Mind Matters yn cynnig cyngor arbenigol ac awgrymiadau ymarferol i'ch helpu i ofalu am eich lles meddyliol a'u gwneud yn rhan o'ch trefn ddyddiol.
  • Mae MS-UK yn elusen genedlaethol sy’n rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i helpu'r rhai y mae MS yn effeithio arnynt i fyw bywyd iachach a hapusach
  • Mae Shift.ms yn cynnig cefnogaeth a chyngor gan eraill sy'n byw gydag MS
Dilynwch ni