P'un a ydych wedi cael diagnosis yn ddiweddar, yn y broses o gael diagnosis neu yn bartner/aelod teulu i rywun sydd wedi cael diagnosis o MS yn ddiweddar, mae'r digwyddiad hwn ar eich cyfer chi. Mae’r tîm Sglerosis Ymledol yng Nghanolfan Helen Durham, Ysbyty Athrofaol Cymru ac MS Society Cymru yn eich gwahodd i ymuno â ni ar gyfer digwyddiad addysgol sy'n canolbwyntio ar ddiagnosis newydd o MS. I ddysgu mwy am MS gan ein panel o arbenigwyr, trefnwch eich lle:
P'un a ydych wedi cael diagnosis yn ddiweddar, neu'n byw gydag MS ers tipyn, neu'n bartner i rywun sy'n byw gydag MS, mae'r digwyddiad hwn ar eich cyfer chi.
Llenwch y ffurflen gofrestru Eventbrite drwy'r ddolen hon:
Gofynnwch i'ch teulu neu ffrindiau lenwi ffurflen gofrestru Eventbrite ar wahân os ydynt yn dymuno mynychu hefyd.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.
Mae Gwasanaeth Asesu Symudedd a Gyrru Cymru yn cynnal diwrnod agored. Mae'r digwyddiad ar gyfer pobl ifanc 16 oed i fyny a phobl ag ystod o anableddau. Mae'r digwyddiad yn eich galluogi i roi cynnig ar wahanol addasiadau car a fyddai'n eich galluogi i yrru i weddu i lefelau gwahanol o anableddau. Bydd ein tîm asesu yno ar y diwrnod i drafod unrhyw gwestiynau sydd gennych. Gallwch roi cynnig ar yr addasiadau mewn amgylchedd diogel gyda gweithwyr proffesiynol a all ddangos i chi sut i'w defnyddio'n briodol.
Go-Mobile-Wales-Flyer-V3-Welsh.pdf (wmdas.co.uk)
Sesiynau ffitrwydd wedi'u rhedeg gan Hyfforddwr Personol sy'n arbenigo mewn Cyflyrau Niwrolegol.
Mae'r sesiynau'n newid yn wythnosol rhwng amser cinio a gyda'r nos.
5.30 - 6.30 yp |
12 – 1 yp |
10/09/2024 |
17/09/2024 |
24/09/2024 |
01/10/2024 |
08/10/2024 |
15/10/2024 |
22/10/2024 |
05/11/2024 |
12/11/2024 |
19/11/2024 |
Ystafell Ffitrwydd yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd
Lleoliad cwbl hygyrch gyda system aerdymheru, parcio, a safle bws gerllaw. Mae croeso i bartneriaid/gofalwyr fynychu a chymryd rhan hefyd.
Rhaid archebu lle ymlaen llaw, cysylltwch â: leila.middlehurst-evans@mssociety.org.uk
Nod ACT yw helpu pobl i ganfod mwy o ystyr a boddhad mewn bywyd bob dydd, tra’n rheoli profiadau mewnol megis meddyliau anodd, emosiynau ac anawsterau corfforol yn fwy effeithiol
Taflen Wybodaeth Therapi Derbyn ac Ymrwymo (Cymraeg)
Cysylltwch i gofrestru: mscymru@mssociety.org.uk
Mae Cymdeithas MS Cymru yn cynnig 6 sesiwn cwnsela 1:1 am ddim i unrhyw un sy'n byw gydag MS a'u teuluoedd yng Nghymru.
Cysylltwch i gofrestru: mscymru@mssociety.org.uk
Cwestiynau Cyffredin y Gaeaf: Brechlynnau COVID-19, pigiadau’r ffliw ac MS.
Gwyliwch y fideo Cofrestrwch ar gyfer gweminarau ar dudalen we y Gymdeithas MS.