Neidio i'r prif gynnwy

Cyllid a Chyflogaeth

Cyllid a Chyflogaeth
Cyflogaeth

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn disgrifio eich hawliau yn y gweithle ac wrth chwilio am gyflogaeth. Mae'r Ddeddf hon yn amddiffyn pobl ag MS (a chyflyrau eraill) rhag unrhyw fath o wahaniaethu o adeg y diagnosis. Er efallai nad ydych yn teimlo'n gyfforddus gyda'r label, rydych yn cael eich categoreiddio'n gyfreithiol fel 'anabl' ar ôl i chi gael diagnosis, sy'n golygu y gallech fod yn gymwys i gael ystod o fudd-daliadau a chymorth.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Sglerosis Ymledol fwy o wybodaeth am effaith MS ar eich bywyd gwaith a beth yw eich hawliau.

Cyllid

Bydd effaith symptomau MS ar fywyd yn wahanol i bawb. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gymorth ariannol gan y Gymdeithas MS , Ymddiriedolaeth 

a`r  MS. Home — Speakeasy Law Centre

 

 

Prosiect Cysylltiadau Cymunedol yr MS Society

Mae'r fenter newydd hon yn anelu at i wneud bywyd yn haws i'r rhai ag MS, eu teuluoedd, ffrindiau, a gofalwyr di-dâl:

·       Canllawiau ymarferol ar gyllid, costau byw, effeithlonrwydd ynni, a mwy

·       Cefnogaeth gydag atgyfeiriadau i wasanaethau Cymdeithas MS, Cyngor ar Bopeth, a darparwyr iechyd neu ofal lleol

·       Cyngor lles trwy gysylltiadau â budd-daliadau, gweithgareddau, a sefydliadau arbenigol eraill Cymorth personol gan ein tîm, a fydd yn cymryd yr amser i ddeall eich anghenion a'ch paru â'r adnoddau cywir

 

Sut i gael mynediad:

Anfonwch e-bost atom at MSconnections@mssociety.org.uk neu ffoniwch ein Llinell Gymorth MS ar 0808 800 8000

Dilynwch ni