Neidio i'r prif gynnwy

COVID-19

COVID-19

Beth ddylwn i ei wneud os oes gennyf symptomau’r coronafeirws?

Os oes gennych symptomau COVID-19 (peswch newydd a pharhaus, tymheredd uchel, neu wedi colli eich synnwyr blasu neu arogli neu newid i’r synhwyrau hynny) dylech hunanynysu a gwneud cais am brawf drwy naill ai:

Os ydych wedi trefnu mynychu ar gyfer trwythiad neu apwyntiad, PEIDIWCH â mynychu (rhowch wybod i ni a byddwn yn aildrefnu).

 

Sylwch, nid yw ein nyrsys MS arbenigol bellach yn gallu atgyfeirio cleifion at driniaeth gwrthfeirysol oherwydd Covid.

Felly, os ydych yn credu eich bod wedi cael Covid, ewch i’r wefan: [ Gwasanaethau Gwrthfeirysol Ledled Cymru ]

https://www.wmic.wales.nhs.uk/navs-cymru/ac os ydych yn credu eich bod yn gymwys i gael triniaeth gwrthfeirysol ar ôl profi’n bositif am COVID-19 a’ch bod yn breswylydd yng Nghymru, cliciwch ar Gallwch gael mynediad at y Porth Hunanatgyfeirio yma

 

A ddylwn i gael brechlyn COVID-19/Ffliw os yw'n cael ei gynnig?

Cynghorir pawb sydd ag MS i gael brechlynnau COVID-19 a'r ffliw pan gânt eu cynnig. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n cymryd meddyginiaethau DMT.

 

A ddylwn i atal fy meddyginiaeth os bydd rhywun yn y cartref yn sâl?

Os ydych yn hunanynysu oherwydd bod rhywun yn eich cartref yn sâl, dylech barhau â'ch meddyginiaeth fel arfer oni bai eich bod yn mynd yn sâl.

 

A fydd y brechlyn COVID-19 yn effeithiol os ydw i'n cymryd DMT?

Rydym ni ac eraill wedi astudio ymatebion i'r brechlyn COVID-19 mewn pobl ag MS. Gwelsom fod gan bobl a oedd yn derbyn rhai DMTs (ocrelizumab a fingolimod yn bennaf) ymatebion ychydig yn wannach i frechlynnau COVID, ond cafodd hyn ei helpu trwy dderbyn dosau atgyfnerthu ychwanegol o'r brechlyn. Rydym yn argymell bod pawb sydd ag MS ac ar DMTs yn derbyn y brechlyn COVID gan fod unrhyw amddiffyniad yn debygol o fod yn well na dim.

Dilynwch ni