Neidio i'r prif gynnwy

Apwyntiadau a Chlinigau

Apwyntiadau a Chlinigau

Gellir cynnal ymgynghoriadau dros y ffôn, ymgynghoriadau fideo ac wyneb yn wyneb.

Os yw eich apwyntiad wyneb yn wyneb, gwiriwch leoliad yr apwyntiad gan ein bod yn gweld cleifion mewn lleoliadau amrywiol ledled Caerdydd a'r Fro a Chwm Taf.

Ar gyfer clinigau ffôn a fideo byddwch yn derbyn llythyr gydag amser apwyntiad bras, ond efallai y bydd y meddyg/gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cysylltu â chi o fewn awr neu ddwy cyn neu ar ôl yr amser a drefnwyd.

Mynychu eich apwyntiad drwy fideo.

Atgyfeiriadau newydd

Bydd pob atgyfeiriad newydd a dderbyniwn yn cael ei adolygu gan feddyg. Byddant yn asesu pa mor fuan y bydd angen i chi gael eich gweld, ac a oes angen trefnu unrhyw brofion eraill ymlaen llaw.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn i drafod eich atgyfeiriad.

Byddwch yn aros ar y rhestr aros hyd nes y cynigir apwyntiad i chi oni bai eich bod yn gwrthod mynychu.

Trwythiadau (DMT)

Croeso i'r Uned Ddydd Niwroleg (NDU). Rydym yn dîm o Feddygon Niwroleg, Nyrsys, gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd a staff gweinyddol sy'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod yr NDU yn rhedeg yn esmwyth. Mae'r NDU yn darparu gofal i bobl ag amrywiaeth eang o gyflyrau Niwrolegol ond mae nifer fawr o'n defnyddwyr gwasanaeth yn bobl ag MS. Lle bo modd, mae nyrs MS hefyd yn darparu gofal yn ogystal â nyrs Niwroleg ond mae gan bob tîm wybodaeth a phrofiad helaeth o Niwrowyddoniaeth ac MS.

 

Mae'r Uned Ddydd Niwroleg wedi'i lleoli ar lawr daear Ysbyty Athrofaol Cymru wrth ymyl MSDEC (Gofal Brys Meddygol yr Un Diwrnod). Rhennir y Dderbynfa gan yr NDU ac MSDEC. Gellir dod o hyd iddo trwy gerdded i fyny'r coridor tuag at yr Adran Radioleg. Mae'r orsaf radio wedi'i lleoli gyferbyn â'r Adran Radioleg a gellir dod o hyd i MSDEC ac NDU trwy gymryd y troad cyntaf i'r chwith ar ôl yr Orsaf Radio.

 

Mae'r Uned Ddydd Niwroleg yn Uned 6 gwely gydag 1 ciwbicl ar gyfer ymchwiliadau fel Pigiadau yn y Lwynau. Rydym yn rhoi triniaethau mewnwythiennol ac isgroenol fel Natalizumab, Ocrelizumab, Alemtuzumab a Rituximab yn ogystal â'r triniaethau a roddir ar gyfer cyflyrau niwrolegol eraill, ac yn cynorthwyo'r Meddygon mewn ymchwiliadau yn ôl yr angen. Yn dibynnu ar y driniaeth efallai y byddwch yma am rhwng 20 munud a 7 awr. Bydd ein staff yn sicrhau eich bod yn cael eich monitro ac y darperir gofal ar eich cyfer yn ystod yr amser hwn. Gallwn ddarparu te, coffi a brechdanau ond os ydych angen unrhyw fyrbrydau neu ddiodydd ychwanegol rydym yn eich cynghori i ddod â'ch rhai eich hun.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich apwyntiad neu driniaeth neu os na allwch ddod, cysylltwch â ni ar 02920743280 rhwng 08.00 a 17.00.

 

Byddwn yn defnyddio mesurau rheoli heintiau yn yr uned ddydd i leihau'r risg o haint. NI DDYLECH fynychu os ydych yn teimlo'n sâl neu os bydd rhywun yn eich cartref wedi bod yn sâl o fewn y 14 diwrnod diwethaf. Os yw hyn yn wir, ffoniwch 02920 743280.

Dilynwch ni