Neidio i'r prif gynnwy

Biocemeg Feddygol ac Imiwnoleg

gwyddonydd mewn labordy

Mae'r Adran Biocemeg Feddygol ac Imiwnoleg yn darparu ystod eang o wasanaethau biocemeg glinigol, tocsicoleg ac imiwnoleg o'i labordai yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Athrofaol Llandochau ac Ysbyty Felindre.

Ar hyn o bryd mae'r adran yn delio â mwy na 2500 o samplau bob dydd ac yn cynhyrchu dros 5 miliwn o ganlyniadau dadansoddol bob blwyddyn.

Mae'n darparu gwasanaeth i ofal sylfaenol ac eilaidd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn ogystal â chefnogi gwasanaethau clinigol trydyddol yng Nghaerdydd. Darperir y gwasanaethau labordy arbenigol hyn, gan gynnwys gwasanaethau Biobrofion Uwchranbarthol, i labordai eraill ledled Cymru a'r DU. Mae'r rhain yn cynnwys hormonau peptid a steroid, porffyrinau a phrofion imiwnoleg arbennig.

Mae gwasanaethau cenedlaethol eraill yn cynnwys sgrinio cynenedigol a Sgrinio Newyddenedigol i Gymru, gwasanaethau olrhain metel a phediatreg metabolaidd rhanbarthol.

Mae'r adran yn Labordy Meddygol achrededig UKAS Rhif: 8989

Mae ein hachrediad ISO 15189 wedi'i gyfyngu i'r gweithgareddau hynny a ddisgrifir ar ein hatodlen achrediad UKAS

Cwmpas hyblyg toxicoleg

Cwmpas Hyblyg Sbectromedreg Màs

Fodd bynnag, ni nodir statws achredu pob prawf ar ein hadroddiadau.

Rydym yn cynnig ystod o Wasanaethau Clinigol a Chyngor - gweler pob adran unigol am ragor o wybodaeth.

Cysylltwch â'r labordy petaech angen SLA.

Er mwyn gwella'r gwasanaeth i'n defnyddwyr rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n repertoire Mae dilysiad/dilysu o'r profion hyn wedi 'i' wneud

Mae newidiadau yn cynnwys:

ISAC i ALEX2 ar MADX 9K
Yn newid o'r ISAC llaw i ddefnyddio'r ALEX2 ar MADX 9K ar gyfer microaryen allergen.


Fitaminau A ac E ar blatfform LCMS QDa Waters


Panel Benzodiazepine 1 (Clobazam a Midazolam) ar LCMSMS Waters

Fodd bynnag, mae rhai o'r profion hyn bellach y tu hwnt i'n cwmpas achrediad fel yr aseswyd gan UKAS. Mae UKAS wedi cael gwybod a byddant yn asesu'r newidiadau hyn fel estyniad i gwmpas (ETS) ein hachrediad, mae nifer o ddyddiadau asesu wedi'u trefnu gyda chynllun i gwblhau'r ETS ym mis Rhagfyr 2025 yn ystod ein prif ymweliad asesu. Mae hon yn weithdrefn arferol wrth newid platfformau/methodoleg dadansoddwyr

Yn ogystal, mae'r adran wedi tynnu  Ffactor B, Cystin Ysgyfaint, ELF a P3NP o'i repertoire.

 

Our Services

 QI-BIO-TXFlexibleScope welsh r8.pdf (PDF, 280Kb)
 QI-BIO-EFlexibleScope Welsh version rev 1 (1).pdf (PDF, 223Kb)
 QI-BIO-TXFlexibleScope welsh version r6.pdf (PDF, 210Kb)
 QI-BIO-TXFlexibleScope welsh version r5.pdf (PDF, 209Kb)
Gwybodaeth Gyswllt
Gwasanaethau Biocemeg Acíwt
Labordy Sgrinio Cyn Geni
Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan
Treialon Clinigol
Imiwnoleg
Adrodd yn Electronig
Labordy Endocrinoleg
Labordy Metabolaidd
Labordy Sgrinio Babanod Newydd-anedig
Gwasanaeth Porffyria Caerdydd
Profion Preifat / Masnachol
Gofynion Labelu Sbesimenau (heblaw Caerdydd a'r Fro)
Gwasanaeth Monitro Cyffuriau Therapiwtig
Labordy Tocsicoleg
Elfennau Hybrin

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni