Neidio i'r prif gynnwy

Labordy Microbioleg

Microb

Mae microbioleg feddygol ddiagnostig ar gyfer Ysbytai Caerdydd yn cael ei darparu gan Microbioleg Caerdydd, sy'n rhan o Rwydwaith Labordy Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru.

Ein gwasanaethau

Rydym yn darparu'r ystod ganlynol o wasanaethau:

  • gwasanaeth diagnostig microbioleg glinigol helaeth, gan gynnwys Bacterioleg, Mycoleg, Firoleg, Bioleg Foleciwlaidd, Seroleg, a Pharasitoleg i ysbytai a Meddygon Teulu ledled Caerdydd a'r Fro
  • gwasanaeth rheoli heintiau clinigol, gan gynnwys stiwardiaeth wrthfiotig
  • gwasanaethau rheoli heintiau a chyngor i BIP Caerdydd a'r Fro ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre
  • gwasanaethau cyfeirio Cymru ar gyfer mycobacterioleg, firoleg, diagnosteg foleciwlaidd a chemotherapi gwrthficrobaidd: mae gwybodaeth i ddefnyddwyr ar gael drwy wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • gwasanaeth cyfeirio cenedlaethol yn y DU ar gyfer microbioleg anaerobig: mae gwybodaeth i ddefnyddwyr ar gael trwy wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • data epidemiolegol i Ganolfan Gwyliadwriaeth Clefydau Trosglwyddadwy (CDSC), a chefnogaeth i Ymgynghorwyr mewn Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy (CCDC) wrth ymchwilio i achosion o glefydau heintus
  • gwasanaethau microbioleg amgylcheddol (gan gynnwys bwyd, llaeth a dŵr) i adrannau iechyd yr amgylchedd lleol
  • mynediad cyflym i'r holl gyfleusterau labordy cyfeirio cenedlaethol trwy'r Asiantaeth Diogelu Iechyd (HPA).

Mae gan Microbioleg Caerdydd labordy meddygol achrededig UKAS 9510.

 

Cysylltwch â ni

Ffôn: 029 2074 4515

Y tu allan i oriau: 029 2074 7747

Ffacs: 029 2074 6403

Dilynwch ni