Neidio i'r prif gynnwy

Biocemeg Feddygol ac Imiwnoleg

 

Mae’r Adran Biocemeg Feddygol ac Imiwnoleg yn darparu ystod eang o wasanaethau biocemeg glinigol, tocsicoleg ac imiwnoleg o’i labordai yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Athrofaol Llandochau ac Ysbyty Felindre.

Ar hyn o bryd mae'r adran yn trin dros 2500 o samplau bob dydd ac yn cynhyrchu dros 5 miliwn o ganlyniadau dadansoddol bob blwyddyn.

Mae’n darparu gwasanaeth i ofal sylfaenol ac eilaidd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn ogystal â chefnogi gwasanaethau clinigol trydyddol yng Nghaerdydd. Darperir y gwasanaethau labordy arbenigol hyn, gan gynnwys gwasanaethau Supra Regional Assay, i labordai eraill ledled Cymru a’r DU. Mae'r rhain yn cynnwys hormonau peptid a steroid, porffyrinau a phrofion imiwnoleg arbennig.

Mae gwasanaethau cenedlaethol eraill yn cynnwys Sgrinio Cyn Geni a Sgrinio Newyddenedigol i Gymru, gwasanaethau metel hybrin rhanbarthol a metabolaidd pediatrig.

Mae'r adran yn Labordy Meddygol achrededig UKAS Rhif: 8989

Mae ein hachrediad ISO 15189 wedi'i gyfyngu i'r gweithgareddau hynny a ddisgrifir ar ein hamserlen achredu UKAS .

Rydym yn cynnig amrywiaeth o Wasanaethau Clinigol a Chyngor - gweler pob adran unigol am ragor o wybodaeth.

Cysylltwch â'r labordy os oes angen CLG.

Dilynwch ni