Neidio i'r prif gynnwy

Dolur Gwddw

Fel arfer, nid yw dolur gwddw yn ddim i boeni yn ei gylch, ac mae'n gwella ar ei ben ei hun ymhen wythnos. Achosir dolur gwddw gan amlaf gan fân afiechydon, fel annwyd a'r ffliw, y gellir eu rheoli gartref â meddyginiaeth dros y cownter. 

Beth sy'n achosi dolur gwddw?

Yn aml, nid oes achos amlwg i ddolur gwddw ond, gan amlaf, mae ymhlith symptomau haint feirysol neu facteriol gan gynnwys:

  • annwyd neu'r ffliw
  • laryngitis (llid y corn gwddf)
  • tonsilitis
  • ffaryngwst streptococol (haint facteriol y gwddf)
  • twymyn y chwarrenau.

Weithiau gall fod oherwydd rhywbeth yn llidio eich gwddf fel adlifiad asid neu alergeddau.

Gall achosion llai cyffredin ond mwy difrifol gynnwys:

  • Ysbinagl  (casgliad poenus o grawn neu grawniad yng nghefn y gwddf) – byddech yn ei chael yn anodd agor eich ceg, a phroblemau'n llyncu a fyddai'n gwneud ichi lafoerio.
  • Epiglotis (llid y fflap o feinwe yng nghefn y gwddf) – byddai gennych boen ddifrifol a phroblemau posibl yn anadlu a llyncu.

Os oes gennych unrhyw rai o'r symptomau hyn, dylech gael cymorth meddygol ar frys. 

Sut y gallaf drin dolur gwddw?

  • Defnyddiwch gyffuriau lleddfu poen syml fel parasetamol ac ibwproffen i helpu i leddfu dolur gwddf.
  • Cofiwch yfed digonedd o hylifau cynnes.
  • Bwytewch fwydydd meddal.
  • Osgowch ysmygu ac amgylcheddau myglyd.
  • Garglwch â dŵr cynnes, hallt. 
  • Defnyddiwch losin sugno, losin caled, ciwbiau iâ a lolipops iâ i helpu ag unrhyw anesmwythder.
  • NID YW gwrthfiotigau yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn fel arfer i drin dolur gwddw, hyd yn oed os oes haint facteriol. Mae hyn am nad ydynt yn debygol o'ch gwella yn gyflymach o gwbl, ac am eu bod yn aml yn achosi sgil-effeithiau annymunol. 

Pryd mae angen imi gael cyngor meddygol?

Fel arfer, nid oes angen ichi gael cyngor meddygol ar gyfer eich dolur gwddw. Fodd bynnag, efallai bydd angen ichi gael cyngor: 

  • os yw eich symptomau'n ddifrifol
  • os yw eich symptomau'n parhau, heb ddechrau gwella ar ôl wythnos
  • os oes gennych ddolur gwddw rheolaidd
  • os yw eich system imiwnedd wedi'i llethu naill ai drwy afiechyd neu driniaeth feddygol. 

A oes angen imi gael cymorth brys?

Dim ond mewn achosion prin iawn y bydd dolur gwddw'n arwain at sefyllfa argyfwng – ond os oes gennych unrhyw rai o'r symptomau hyn, mae angen ichi gael cymorth ar unwaith. 

  • Mae eich symptomau'n ddifrifol ac yn gwaethygu'n gyflym iawn. 
  • Rydych chi'n ei chael yn anodd anadlu.
  • Rydych chi'n gwneud sŵn uchel wrth anadlu (gwichian).
  • Rydych yn cael problemau'n llyncu ac yn dechrau glafoerio.

 

Dilynwch ni