Neidio i'r prif gynnwy

Y Llindag

Haint ffwngaidd neu furum gyffredin yw'r llindag, sy'n digwydd gan amlaf ar ffurf llindag y wain ymhlith menywod. Gall fod yn gyflwr sy'n codi cywilydd, ac mae rhai pobl yn cael symptomau rheolaidd.

Er ein bod yn meddwl yn fwy cyffredin am fenywod yn cael y llindag, gall pobl o unrhyw oedran gael y llindag yn eu cegau. Gall dynion hefyd gael y llindag o amgylch eu horganau cenhedlu.

 

Pam mae'r llindag yn digwydd?

Mae'r burum sy'n achosi'r llindag yn ffynnu mewn mannau cynnes. Am hynny y mae'n tueddu i ddatblygu o dan y bronnau, yn y werddyr ac o amgylch yr organau cenhedlu. Bydd llindag y wain yn digwydd pan fydd cydbwysedd naturiol candida yn cael ei newid, sy'n ei alluogi i luosogi ac achosi'r llindag. 

Rydych yn fwy tebygol o gael y llindag:

  • os ydych rhwng 20 a 40 oed
  • os ydych yn feichiog
  • os ydych yn cael sychder y wain – er nad haint a drosglwyddir yn rhywiol mo'r llindag, gall rhyw ei sbarduno
  • os ydych yn cymryd gwrthfiotigau.

Beth yw symptomau'r llindag?

  • Dolur a chosi yn yr ardal dan sylw, gan gynnwys y geg
  • Mewn dynion
    • Darnau gwyn coslyd yn ardal yr organau cenhedlu
  • Mewn menywod        
    • Rhedlif megis ‘caws colfran' o'r wain, a hwnnw fel arfer yn ddiarogl
    • Poen yn ystod rhyw
    • Poen wrth basio dŵr

Y llindag mewn babanod

Gall babanod gael y llindag hefyd, yn enwedig yn eu cegau.

Os yw hyn yn digwydd a'ch bod yn bwydo ar y fron, mae'n awgrymu fod y llindag gennych efallai yn ardal eich didennau, felly bydd angen ichi drin eich hun yn ogystal â'r baban. 

Os ydych yn bwydo â photel neu'n defnyddio dymi, mae angen ichi gofio diheintio pob dymi a photel yn briodol.

Y llindag yn ystod beichiogrwydd

Os ydych yn feichiog ac yn datblygu arwyddion neu symptomau'r llindag, mae angen ichi siarad â'ch fferyllydd neu'ch meddyg teulu cyn trin eich hun. Gall gynghori ar y cynhyrchion sy'n ddiogel i'w defnyddio yn ystod beichiogrwydd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG.

Sut y gallaf drin y llindag?

  • Triniaethau argroenol yw'r rhan fwyaf o driniaethau'r llindag, gan olygu eu bod yn cael eu rhoi'n syth ar y croen neu eu rhoi fel pesari i'r wain
  • Mae pob triniaeth ar gyfer y llindag ar gael o'ch fferyllfa leol. Nid oes angen apwyntiad nyrs neu feddyg teulu bob amser i drin y llindag

    Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG.

Sylw gan Feddyg Teulu/Ymarferwr Clinigol

Pwyntiau Allweddol

  • Gall y llindag effeithio ar bawb – dynion, menywod a babanod 
  • Nid haint a drosglwyddir yn rhywiol mo'r llindag, ond gall rhyw ei sbarduno os ydych yn dioddef o sychder y wain
  • Mae'r llindag rheolaidd yn effeithio ar rai pobl – os ydych yn dioddef gyda symptomau rheolaidd, mae'n bwysig ichi siarad â'ch fferyllydd lleol i ganfod y driniaeth sy'n gweithio orau i chi 
Dilynwch ni