Neidio i'r prif gynnwy

Dolur Rhydd a Chwydu

Bydd dolur rhydd a chwydu yn effeithio ar y rhan fwyaf ohonom o bryd i'w gilydd. Er nad ydynt yn ddymunol, bydd y symptomau wedi mynd fel arfer ymhen ychydig ddyddiau. Gall dolur rhydd a chwydu ddigwydd ar wahân neu gyda'i gilydd ond, yn aml, ychydig iawn y gall Meddyg ei wneud ar gyfer y symptomau hyn. 

Beth sy'n achosi dolur rhydd?

Mae llawer o achosion pob dydd ar gyfer dolur rhydd.  Gall rhagofalon syml fel golchi dwylo'n rheolaidd drwy gydol y dydd helpu i atal haint rhag lledu. 

Beth sy'n achosi chwydu?

Fel dolur rhydd, mae llawer o achosion pob dydd ar gyfer chwydu, yn amrywio o annwyd a'r ffliw i yfed gormod o alcohol. Gall haint facteriol ei achosi hefyd. 

Sut gallaf atal dolur rhydd a chwydu rhag lledu?

Gallwch gymryd llawer o gamau syml i helpu i atal dolur rhydd a chwydu rhag lledu. Ymhlith y rhain mae golchi dwylo'n rheolaidd, peidio â rhannu tywelion, a chadw draw o'r ysgol neu'r gwaith nes bod eich symptomau wedi peidio ers 48 awr.

A oes unrhyw gymhlethdodau posibl?

Fel arfer, mae dolur rhydd a chwydu yn gwella ohonynt eu hunain, ond mae'n bwysig sicrhau eich bod yn parhau i hydradu'ch hun. 

Rhai o arwyddion cynnar dadhydradiad yw:

  • teimlo'n sychedig neu geg sych
  • penysgafnder
  • wrin tywyll neu wrin sy'n gwynto'n gryf
  • pasio dŵr yn llai aml.

Triniaethau ar gyfer Dolur Rhydd a Chwydu

Yn anffodus, ychydig iawn y gall meddyg ei wneud i helpu i gael gwared ar ddolur rhydd neu chwydu, ond bydd yfed digonedd o hylif, gan gynnwys diodydd siwgraidd, yn gwneud ichi deimlo'n llawer gwell. I ddechrau, mae angen ichi yfed llymeidiau bach yn aml, cyn yfed mwy'n raddol.

Pryd mae angen imi ofyn am gyngor?

Os yw eich symptomau'n parhau mwy nag ychydig ddiwrnodau, neu os oes gennych symptomau eraill fel tymheredd uchel, poenau difrifol yn eich bol, gwaed yn eich carthion neu chwydfa, mae angen ichi weld eich meddyg. Mae angen ichi fod yn fwy gofalus ymhlith yr ifanc iawn a'r oedrannus, yn ogystal â menywod beichiog. 

Sylw gan Feddyg Teulu/Ymarferydd Clinigol

Pwyntiau Allweddol

  • Daw dolur rhydd a chwydu i ben ymhen ychydig ddyddiau fel arfer.
  • Ceisiwch gadw'ch hun wedi'ch hydradu, gan gymryd llymeidiau o hylif.
  • Os bydd eich symptomau'n parhau neu os byddwch yn datblygu tymheredd uchel neu waed yn eich carthion neu chwydfa, mae angen ichi weld eich meddyg teulu. 
Dilynwch ni