Neidio i'r prif gynnwy

Alergeddau

Gall unrhyw nifer o ffactorau achosi alergeddau – mae cynhyrchion naturiol yr un mor debygol o achosi adweithiau â rhai artiffisial.

Achosion mwyaf cyffredin alergeddau yw:

  • Paill coed/glaswellt (Clwy'r gwair)
  • Gwiddon llwch
  • Anifeiliaid
  • Bwyd
  • Pigiadau pryfed
  • Meddyginiaethau
  • Llwydni
  • Defnydd glanhau'r cartref

Symptomau Alergedd

Er bod symptomau alergedd yn annymunol, anaml y byddant yn ddifrifol, ac nid ydynt yn peri gormod o ofid. Fodd bynnag, mae rhai adweithiau'n ddifrifol ac mae gofyn sylw meddygol arnynt ar unwaith (gweler isod).

Symptomau mwyaf cyffredin alergeddau yw:

  • Tisian neu drwyn coslyd/diferol/llawn
  • Llygaid dyfrllyd, coch, coslyd
  • Brech goch goslyd, chwyddedig
  • Croen sych, coch neu wedi cracio
  • Gwefusau, tafod neu wyneb wedi chwyddo – Cofiwch y gall y rhain fod yn symptomau cynnar o adwaith difrifol

Adwaith Alergaidd Difrifol (Anaffylacsis)

Mewn achosion prin iawn, gall alergedd fod yn ddifrifol a gall arwain at anaffylacsis a/neu sioc anaffylactig, sy'n gallu bygwth bywyd. Mae hyn yn effeithio ar y corff cyfan ac yn digwydd o fewn munudau i'r cysylltiad.

Mae'r symptomau'n cynnwys:

  • Chwyddo'r gwddf a'r geg
  • Anhawster yn anadlu
  • Penysgafnder
  • Dryswch
  • Ymgwympo a cholli ymwybyddiaeth

 

Sut mae lleihau effeithiau alergeddau gymaint â phosibl

  • Weithiau, efallai na fydd yn bosibl nodi beth sy'n achosi alergedd, ond os gallwch enwi'r hyn sy'n achosi'r alergedd, gallai'r cyngor canlynol fod o gymorth: 
  • Osgoi cyswllt ag alergenau os oes modd
  • Gofyn am fanylion cynnwys bwyd cywir os oes alergeddau bwyd arnoch
  • Cymryd gwrth-histaminau ar adegau pan fyddwch yn debygol o gael adwaith 
  • Efallai bydd gofyn i gleifion sydd ag alergeddau difrifol gario ‘Epi-pen’ – byddant yn cael hwn ar bresgripsiwn gan arbenigwr a bydd hyfforddiant yn cael ei roi ar sut i'w ddefnyddio

Sylw gan Feddyg Teulu/Ymarferwr Clinigol

Pwyntiau Allweddol

  • Nid yw'r rhan fwyaf o alergeddau'n ddifrifol ond pe byddech yn datblygu adwaith difrifol byddai angen ichi gael cymorth meddygol ar unwaith
  • Os oes mân alergedd arnoch, gallwch fynd i'ch Fferyllfa leol, lle cewch gyngor am achosion posibl a'r driniaeth sy'n ofynnol 
  • Os oes gennych alergedd i widdon llwch, gallai glanhau'n rheolaidd â sugnydd llwch helpu
  • Gall meddyginiaeth achosi symptomau alergedd, yn enwedig pan fydd yn newydd. Gallwch siarad â'ch Fferyllydd a fydd yn gallu helpu
  • Efallai bydd cael anifeiliaid anwes yn cynyddu risg alergedd, yn enwedig os ydych yn sensitif iddynt neu'r alergenau y gallent fod yn eu cario

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG

 

 

Dilynwch ni