Neidio i'r prif gynnwy

Clust dost

Mae clust dost yn broblem gyffredin, yn enwedig ymhlith plant. Gall beri gofid ond, fel arfer, dim ond mân haint sy'n ei hachosi a bydd yn gwella wedi ychydig ddiwrnodau, a hynny fel arfer heb fod angen triniaeth bellach. 

Gall clust dost fod yn fud boen, yn wayw neu'n ddolurus, a gall fod yno drwy'r amser neu fynd a dod. Gall effeithio ar un glust neu'r ddwy. 

Beth sy'n achosi clust dost?

Heintiau yn y glust – os oes gennych haint yn y glust, efallai bod rhedlif dyfrllyd neu grawn yn dod o'r glust.

  • Heintiau yn y glust allanol a'r glust ganol yw achosion mwyaf cyffredin clust dost.
  • Yn aml, bydd heintiau yn y glust yn clirio ar eu pen eu hunain ymhen ychydig ddiwrnodau neu wythnosau heb driniaeth. 
  • Efallai bydd angen ichi gael diferion clust neu wrthfiotigau ar bresgripsiwn gan eich meddyg os yw'r haint yn ddifrifol.

    Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG: Y Glust Allanol  /  Y Glust Ganol

Clust ludiog – hylif wedi cronni'n ddwfn yn y glust.

  • Gall y cyflwr hwn wneud ichi golli eich clyw dros dro
  • Er nad yw'n boenus fel arfer, mae pwysedd yn cronni yn y glust yn gallu achosi ychydig o anghysur
  • Yn aml, mae clust ludiog yn clirio ar ei phen ei hun dros nifer o fisoedd
  • Os bydd symptomau'n parhau, gellir cynnal triniaeth i osod tiwb bach yn nhympan y glust, o'r enw gromed

    Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG

Niwed i'r glust – a achosir fel arfer gan anaf i'r tu mewn i'r glust.

  • Gellir achosi hwn drwy grafu cwyr o'r tu mewn i gorn y glust neu wthio ffon gotwm yn rhy bell i mewn, sy'n gallu gwneud niwed i dympan y glust.
  • Mae tympan dyllog y glust yn gwella ar ei phen ei hun dros amser heb driniaeth, ond gall gymryd hyd at ddeufis i wella'n llwyr.
  • Os ydych wedi gwneud niwed i dympan eich clust, ni ddylech ddefnyddio diferion clust. 

    Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG

Cwyr yn y glust

  • Mae cwyr yn cronni yn y glust yn gallu achosi poen yn y glust.
  • Os ydych yn dioddef o gwyr yn cronni yn y glust, bydd eich fferyllydd yn gallu argymell diferion clust i'w feddalu er mwyn iddo syrthio allan yn naturiol. 
  • Mewn achosion eithafol, efallai bydd angen i'ch meddyg waredu cwyr wedi'i feddalu drwy ddyfrhau.

Rhywbeth yn y glust

  • Os ydych chi'n credu bod rhywbeth yn eich clust chi neu glust eich plentyn, peidiwch â cheisio ei dynnu allan – fe allech ei wthio ymhellach i'r glust yn y pen draw, ac achosi niwed pellach. 
  • Bydd angen ichi fynd i'ch adran Damweiniau ac Achosion Brys leol er mwyn tynnu'r gwrthrych. 

Heintiau yn y gwddf

  • Os ydych yn ei chael yn boenus llyncu neu os oes dolur gwddf arnoch, gallai eich clust dost fod oherwydd haint yn y gwddf. 
  • Mae tonsilitis (llid y tonsiliau) fel arfer yn gwella ei hun wedi ychydig ddyddiau, heb fod angen gwrthfiotigau.
  • Mae ysbinagl / crawniad ar gefn y gwddf yn achosi poen difrifol a phroblemau'n llyncu hylifau - bydd angen ichi weld eich meddyg ar frys os oes ysbinagl arnoch.  

Problemau gên

  • Gall clust dost gael ei hachosi gan broblem gyda'r cymal temporo-mandiblaidd (lle mae'r ên yn cysylltu â'r benglog).
  • Gall arthritis achosi hyn, neu hyd yn oed grensio eich dannedd.
  • Gellir lleddfu'r boen yn aml â chlytiau cynnes/oer a chyffuriau lleddfu poen syml a cheisio osgoi gwasgu eich gên neu grensio eich dannedd.

  • Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG

Crawniadau deintyddol

  • Achosir crawniadau deintyddol gan gasgliad o grawn o dan ddant neu ddeintgig sy'n achosi chwyddo a phoen sy'n gallu lledu weithiau i'ch clust. 
  • Mae hyn yn digwydd fel arfer o ganlyniad i haint facteriol.
  • Mae angen ichi weld deintydd cyn gynted â phosibl i drin yr haint.

    Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG

Pryd mae angen imi gael cyngor meddygol?

Nid oes angen cael cyngor meddygol ar glust dost bob amser – yn aml bydd y symptomau wedi mynd ymhen ychydig ddyddiau ac mae pethau syml y gallwch eu gwneud gartref i helpu.

Gallwch gysylltu â Galw Iechyd Cymru:

  • os oes gennych chi neu'ch plentyn symptomau eraill fel tymheredd uchel iawn, chwydu, dolur gwddf difrifol, chwyddo o gwmpas y glust neu redlif o'r glust
  • os ydych chi'n credu y gall fod rhywbeth yn sownd yn y glust 
  • os nad yw'r glust dost yn gwella wedi ychydig ddyddiau neu os yw'n gwaethygu. 

Beth allaf ei wneud gartref i reoli'r symptomau?

  • Defnyddiwch gyffuriau lleddfu poen arferol fel parasetamol ac ibwproffen, sydd ar gael i'w prynu dros y cownter.
  • Gall defnyddio clwtyn cynnes ar y glust hefyd helpu i leddfu rhywfaint o anghysur.
  • Ewch at eich fferyllydd, a all gynghori ar unrhyw ddiferion clust addas neu helpu i leddfu rhai mathau o glust dost.
  • Ni ddylid defnyddio diferion clust nac olew olewydd os oes gennych dympan dyllog y glust.
Dilynwch ni