Neidio i'r prif gynnwy

Poen Cefn

Mae poen cefn yn gyffredin iawn, gan effeithio ar y rhan fwyaf o bobl ar ryw adeg yn eu bywydau. Mae llawer o bethau'n achosi poen cefn, gan gynnwys osgo, beichiogrwydd, pwysau a thrawma.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG.

Mathau o boen cefn

Poen cefn amhenodol/mecanyddol – yn aml heb unrhyw achos penodol neu boen yn y meinweoedd meddal o gwmpas yr asgwrn cefn
  • Mae'r math hwn o boen yn tueddu i wella neu waethygu gan ddibynnu ar eich ystum.
  • Mae'n nodweddiadol waeth wrth symud – ond mae angen ichi ddal i symud neu gall hwn wneud y sefyllfa'n waeth.
  • Mae'n gallu datblygu'n sydyn neu'n raddol.
  • Gellir ei achosi drwy godi rhywbeth yn lletchwith, osgo gwael ac weithiau heb unrhyw achos amlwg.
  • Bydd symptomau fel arfer yn dechrau gwella ar ôl ychydig wythnosau.

    Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG.
Disg Llac – sef disg o gartilag yn yr asgwrn cefn sy'n pwyso ar nerf 
Seiatica – llid ar y nerf sy'n rhedeg o waelod y cefn i'r traed
Anaf Atchwipio – a achosir gan drawiad sydyn fel damwain car
Fferdod ysgwydd – poen ac anystwythder yn yr ysgwydd
  • Yn nodweddiadol, bydd gennych boen yn eich ysgwydd yn ystod y ddeufis i naw mis cyntaf, cyn datblygu anystwythder cynyddol yn y cymal.
  • Mae symptomau fel arfer yn gwaethygu dros gyfnod o fisoedd.
  • Efallai bydd gwelliant yn y symptomau ond gall hyn gymryd nifer o flynyddoedd.

    Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG.
Sbondylitis Asiol - cyflwr tymor hir sy'n achosi llid yn yr asgwrn cefn yn ogystal ag ardaloedd eraill o'r corff
  • Mae symptomau fel arfer yn cynnwys poen cefn ac anystwythder.
  • Gall pobl hefyd ddioddef o flinder eithafol yn ogystal â phoen a chwyddo mewn rhannau eraill o'r corff.
  • Mae symptomau'n tueddu i ddatblygu'n raddol, ac efallai byddant yn mynd a dod dros amser.
  • Mae symptomau rhai pobl yn gwella ag amser, ond efallai bydd eraill yn sylwi ar ddirywiad cyffredinol

    Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG.

Triniaethau ar gyfer Poen Cefn

Pryd bynnag y bo modd, dylech wneud y pethau canlynol:

  • cadw mor weithgar â phosibl – bydd hyn yn eich helpu i wella'n gyflymach
  • gosod clytiau poeth ac oer ar ardal y boen
  • defnyddio triniaeth lleddfu poen dros y cownter i helpu i leddfu'ch symptomau.

Gall eich Fferyllydd roi gwybod i chi am driniaeth dros y cownter i leddfu poen. 

Sylw gan Feddyg Teulu/Ymarferwr Clinigol

Pwyntiau allweddol

  • Os yw eich poen cefn yno o hyd, ond yn gwella, yn aml ni fydd angen ichi weld y meddyg. 
  • Mae llawer o bethau'n achosi poen cefn, ac weithiau nid yw'r achos yn hysbys. 
  • Mae defnyddio meddyginiaeth lleddfu poen yn ei gwneud yn haws byw gyda phoen cefn. 

 

Dilynwch ni