Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (NWJCC) a sefydliadau partner mewn perthynas â'r oedi dros dro i atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaeth cadarnhau rhywedd, asesiadau llawfeddygol a llawdriniaeth wedi'i threfnu drwy Wasanaeth Rhywedd Cymru. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddarparu gofal cadarnhau rhywedd o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n dosturiol i bobl yng Nghymru.
Rydym yn cydnabod bod llawer o gleifion, teuluoedd a rhanddeiliaid yn parhau i geisio gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd nesaf a'r hyn y gallai'r adolygiad ei olygu i ofal unigol. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddarparu diweddariadau clir, ffeithiol ac amserol wrth gefnogi'r rhai y mae’r saib yn effeithio arnynt.
Ers ein diweddariad diwethaf, mae cwmpas yr Adolygiad Clinigol Annibynnol wedi'i sefydlu, gan ddarparu sicrwydd clinigol ychwanegol mewn perthynas â'r llwybr llawdriniaeth sy'n cadarnhau rhywedd. Mae’r Cylch Gorchwyl ar gyfer yr Adolygiad Clinigol Annibynnol, dan arweiniad NWJCC, bellach ar gael ar ein gwefan.
Bydd yr Adolygiad Clinigol Annibynnol yn cael ei gynnal mewn camau, gyda chleifion yn cael eu hadolygu gan ystyried ble maent ar y llwybr llawfeddygol.
Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio i ddechrau ar gleifion yr oedd eu llawdriniaeth i fod i ddigwydd rhwng 26 Awst 2026 a 31 Rhagfyr 2026. Yna bydd yn ystyried cleifion sydd eisoes wedi cael asesiad llawfeddygol ac sy'n aros am lawdriniaeth, ac yna cleifion sydd wedi cael eu hatgyfeirio am lawdriniaeth ac sy'n aros am asesiad llawfeddygol.
Bydd clinigwyr rhywedd annibynnol yn adolygu cofnodion clinigol perthnasol ac yn cyfarfod â chleifion fel rhan o'r broses adolygu a byddant yn ystyried amrywiaeth o ffactorau sy'n berthnasol i ofal unigolyn. Lle bo'n briodol, bydd llawdriniaeth yn cael ei hailgychwyn cyn gynted ag y bydd adolygiad unigolyn wedi'i gwblhau.
Cysylltir â chleifion yn uniongyrchol ynghylch unrhyw adolygiad sy'n ymwneud â'u gofal unigol a byddant yn derbyn gwybodaeth am unrhyw ganlyniadau, camau nesaf neu gamau pellach sydd eu hangen. Bydd Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn parhau i oruchwylio gofal parhaus pob claf drwy gydol y broses a bydd yn parhau i fod y prif bwynt cyswllt ar gyfer cymorth.
Ochr yn ochr ag adolygiadau cleifion unigol, bydd y clinigwyr rhywedd annibynnol yn nodi unrhyw themâu cyffredin, enghreifftiau o arfer da a chyfleoedd i ddysgu. Bydd y canfyddiadau hyn yn helpu i lywio argymhellion ar gyfer gwelliannau i'r gwasanaeth a'i drefniadau llywodraethu yn y dyfodol.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn parhau i weithio'n agos gyda Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru, clinigwyr rhywedd annibynnol a phartneriaid ledled Cymru i gefnogi gweithrediad yr Adolygiad Clinigol Annibynnol.
Rydym yn cydnabod y bydd cleifion, teuluoedd a rhanddeiliaid yn dymuno cael y wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo. Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau wrth i wybodaeth bellach ddod ar gael a phan gyrhaeddir camau allweddol yr adolygiad.
Mewn ymateb i adborth a chwestiynau a dderbyniwyd gan gleifion, teuluoedd a rhanddeiliaid, rydym wedi cyhoeddi set o gwestiynau cyffredin, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â chydweithwyr Gwasanaeth Rhywedd Cymru a Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru. Bydd y Cwestiynau Cyffredin hyn yn parhau i gael eu diweddaru wrth i ragor o wybodaeth ddod ar gael.
Anogir cleifion a rhanddeiliaid i adolygu'r Cwestiynau Cyffredin cyn cysylltu â ni, gan y gallant ddarparu atebion i lawer o gwestiynau cyffredin.
Darllenwch y cwestiynau cyffredin ar wefan BIP Caerdydd a'r Fro
Rydym yn deall y gallai fod angen gwybodaeth, sicrwydd neu gymorth emosiynol ychwanegol ar rai cleifion yn ystod y cyfnod hwn.
Er mwyn helpu i ddarparu cymorth ychwanegol, mae'r Tîm Pryderon yn parhau i weithredu fel un pwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau.
Os oes gennych gwestiynau am y saib presennol, os oes angen eglurhad arnoch am eich amgylchiadau unigol, neu os hoffech ofyn am gymorth seicolegol, cysylltwch â: Cav.Concerns@wales.nhs.uk
Er na allwn ateb pob cwestiwn am ganlyniad neu amserlen yr Adolygiad Clinigol Annibynnol eto, byddwn yn parhau i ymateb mor agored â phosibl a darparu diweddariadau pan fydd gwybodaeth newydd yn cael ei chadarnhau.
Gall cleifion sydd angen cymorth iechyd meddwl brys hefyd gael mynediad at wasanaethau drwy:
Os yw bywyd rhywun mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 neu ewch i'r Adran Achosion Brys agosaf.
Hoffem ddiolch i gydweithwyr ar draws Gwasanaeth Rhywedd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro am eu proffesiynoldeb, eu tosturi a'u hymrwymiad parhaus yn ystod y cyfnod hwn.
Rydym hefyd yn ddiolchgar am y gefnogaeth a ddarparwyd gan gydweithwyr ar draws y GIG, sefydliadau partner, grwpiau eiriolaeth a gwasanaethau trydydd sector ledled Cymru. Mae'r ymrwymiad parhaus i gefnogi cleifion, teuluoedd ac anwyliaid yn parhau i gael ei werthfawrogi'n fawr.
Diweddariad Gwasanaeth Rhywedd Cymru – 25 Medi 2026
Diweddariad Gwasanaeth Rhywedd Cymru – 11 Medi 2026
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.