Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Gwasanaeth Rhywedd Cymru – 28 Awst 2026

Mae gwybodaeth fwy diweddar yma: Diweddariad Gwasanaeth Rhywedd Cymru – 11 Medi 2026 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

28 Awst 2026

Mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru wedi gofyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro oedi atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaethau cadarnhau rhywedd a llawdriniaethau wedi'u trefnu drwy Wasanaeth Rhywedd Cymru tra bod adolygiad clinigol annibynnol yn cael ei gynnal.

Mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn darparu cymorth ac asesu arbenigol gan y GIG i oedolion sy'n profi anghyfathiant rhywedd, gan gynnwys cymorth seicolegol, gofal therapi hormonau, adolygiad endocrin, ac atgyfeirio at lwybrau triniaeth priodol gan gynnwys llawdriniaeth.

Rydym yn cydnabod y gallai'r cyhoeddiad hwn beri gofid i gleifion, eu teuluoedd, staff a'r gymuned ehangach. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth glir, ffeithiol ac amserol am beth mae hyn yn ei olygu a'r gefnogaeth sydd ar gael.

Beth sydd wedi digwydd?

Mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (NWJCC) wedi gofyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro oedi atgyfeiriadau gan Wasanaeth Rhywedd Cymru ar unwaith ar gyfer llawdriniaethau cadarnhau rhywedd a llawdriniaethau wedi'u trefnu presennol tra bod rhagor o waith adolygu clinigol annibynnol yn cael ei wneud.

Gwnaed y penderfyniad yn dilyn cyfarfod gan Bwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Chanlyniadau NWJCC ar 24 Awst 2026, lle uwchgyfeiriwyd y gwasanaeth i Lefel 3. Uwchgyfeiriad Lefel 3 yw proses wella a sicrwydd ffurfiol y GIG, sy'n dangos bod pryderon wedi'u nodi sy'n gofyn am fwy o waith goruchwylio, monitro a gweithredu ar welliannau.

Mae pryderon wedi codi o ddata atgyfeirio o 2025-26 sy'n dangos cyfraddau sylweddol uwch o atgyfeirio ar gyfer llawdriniaethau cadarnhau rhywedd gan Wasanaeth Rhywedd Cymru o'i gymharu â gwasanaethau rhywedd yn Lloegr. Yn ogystal, codwyd pryderon ynghylch agweddau ar brosesau atgyfeirio ac asesu.

O ganlyniad:

  • Mae atgyfeiriadau newydd ar gyfer llawdriniaeth cadarnhau rhywedd wedi'u hoedi.
  • Mae asesiadau llawfeddygol a llawdriniaethau wedi'u trefnu sy'n ymwneud â llwybr Gwasanaeth Rhywedd Cymru wedi'u hoedi.
  • Bydd adolygiad clinigol annibynnol yn cael ei gynnal i roi sicrwydd ynghylch trefniadau asesu, atgyfeirio a llywodraethu a nodi unrhyw gamau sydd eu hangen i gryfhau'r gwasanaeth.
     

Beth yw Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru?

Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (NWJCC) yw'r sefydliad GIG sy'n gyfrifol am gynllunio, comisiynu a goruchwylio ystod o wasanaethau iechyd arbenigol ar ran poblogaeth Cymru. Mae ei rôl yn cynnwys sicrhau bod gwasanaethau'n ddiogel, yn effeithiol ac yn darparu gofal o ansawdd uchel.

Mae'r penderfyniad i oedi atgyfeiriadau wedi'i wneud gan y NWJCC fel rhan o'i gyfrifoldeb am oruchwylio gwasanaethau a gomisiynwyd a sicrhau bod unrhyw bryderon ynghylch ansawdd, diogelwch neu lywodraethu yn cael eu hadolygu'n llawn.

Beth mae hyn yn ei olygu i gleifion?

Ar hyn o bryd, mae'r saib yn ymwneud yn benodol â'r llwybr llawfeddygol o fewn Gwasanaeth Rhywedd Cymru. Mae rhannau eraill o'r gwasanaeth yn parhau i weithredu, gan gynnwys:

  • Cymorth therapi hormonau
  • Gwasanaethau adolygu endocrin
  • Gwasanaethau cymorth seicolegol
  • Therapi iaith a lleferydd

Nid yw'r saib presennol yn effeithio ar y gwasanaethau hyn.

Rydym yn cydnabod y gallai fod gan gleifion sy'n aros am lawdriniaeth, asesiad ar gyfer llawdriniaeth, neu ragor o wybodaeth am eu gofal, bryderon a chwestiynau ynglŷn â beth mae hyn yn ei olygu iddynt yn bersonol.

Dylai cleifion sydd wedi trefnu apwyntiadau gyda Gwasanaeth Rhywedd Cymru barhau i fynychu trafodaethau ynghylch y camau nesaf a chymorth seicolegol.

Ein hymrwymiad

Mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn cefnogi pobl ar gyfnodau pwysig yn eu bywydau ac rydym yn deall y gall ansicrwydd ynghylch triniaeth beri gofid. Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod cleifion yn cael eu trin gydag urddas a thosturi drwy gydol y broses hon.

Rydym wedi ymrwymo i:

  • Rhoi gwybod i gleifion pan fydd mwy o wybodaeth yn dod ar gael.
  • Darparu diweddariadau clir a gonest.
  • Sicrhau bod cyfathrebu yn ffeithiol, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn sensitif i'r effaith ar y rhai yr effeithir arnynt.
  • Gweithio'n agos gyda Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru i sicrhau bod trefniadau cymorth priodol i gleifion ar waith.

Rydym hefyd yn cydnabod bod gofal cadarnhau rhywedd yn bwnc sy'n denu safbwyntiau cryf a gwahanol ar draws cymdeithas. Mae'n bwysig bod trafodaeth gyhoeddus a gwleidyddol yn parhau i fod wedi'i seilio ar wybodaeth gywir a bod dyfalu niweidiol yn cael ei osgoi.

Cymorth ar gael

Rydym yn cydnabod y gallai'r diweddariad hwn beri gofid, rhwystredigaeth neu ansicrwydd i rai cleifion, eu teuluoedd a'r rhai sy'n eu cefnogi.

Os hoffech gymorth ychwanegol, mae yna sefydliadau sy'n darparu gwybodaeth, cyngor, eiriolaeth a chefnogaeth emosiynol i bobl drawsryweddol a LHDTC+, gan gynnwys:

Mae'r sefydliadau hyn yn gweithredu'n annibynnol ar GIG Cymru ac efallai y byddant yn gallu darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth ychwanegol gan gymheiriaid.

Cwestiynau, pryderon a chymorth

Rydym yn deall y gallai fod gan lawer o gleifion gwestiynau am yr hyn y mae'r cyhoeddiad hwn yn ei olygu i'w gofal. Os oes gennych gwestiynau neu bryderon, neu os oes angen cymorth arnoch, anfonwch e-bost atom yn: Cav.Concerns@wales.nhs.uk 

Sylwch efallai na fyddwn yn gallu ateb yr holl gwestiynau ar unwaith tra bod yr adolygiad clinigol annibynnol yn mynd rhagddo. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i roi gwybod i gleifion a darparu diweddariadau wrth i ragor o wybodaeth ddod ar gael.

Rydym yn cydnabod y gallai gohebiaeth i gleifion gymryd amser i'w derbyn yn uniongyrchol. Gall cleifion hefyd weld yr ohebiaeth llythyr ar ein gwefan drwy glicio ar: Gwasanaeth Rhywedd Cymru - Gohebiaeth Cleifion.

Rhaid cyfeirio pob ymholiad gan y cyfryngau at dîm cyfathrebu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni