Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn parhau i weithio'n agos gyda Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (NWJCC) yn dilyn y penderfyniad i oedi atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaeth cadarnhau rhywedd, asesiadau llawfeddygol a llawdriniaeth wedi'i threfnu drwy Wasanaeth Rhywedd Cymru tra bod gwaith sicrwydd pellach yn cael ei wneud.
Ers ein diweddariadau blaenorol ar 28 Awst a 3 Medi, rydym wedi parhau i glywed gan gleifion, teuluoedd, clinigwyr, sefydliadau partner a grwpiau cymunedol ledled Cymru. Rydym yn cydnabod bod y cyfnod ansicr hwn yn parhau i fod yn anodd ac yn peri gofid i lawer o bobl, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth glir, gywir ac amserol wrth iddi ddod ar gael.
Fel yr amlinellwyd yn flaenorol, mae'r saib yn ymwneud yn benodol â'r llwybr llawdriniaeth cadarnhau rhywedd. Nid yw’n effeithio ar gleifion sydd eisoes wedi cael llawdriniaeth ac sydd angen gofal dilynol, y rhai sydd hanner ffordd trwy gyfres o driniaethau llawfeddygol, triniaeth ar gyfer cymhlethdodau, neu ôl-ofal arall sy'n angenrheidiol yn glinigol.
Mae gwasanaethau eraill a ddarperir drwy Wasanaeth Rhywedd Cymru yn parhau, gan gynnwys cymorth therapi hormonau, adolygiad endocrin, cymorth seicolegol, therapi iaith a lleferydd, a gwasanaethau cynnal a thrin ffrwythlondeb.
Dylai cleifion sydd ag apwyntiadau wedi'u trefnu barhau i fynychu oni bai y cysylltir yn uniongyrchol â nhw a’u bod yn cael cyngor fel arall.
Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru i baratoi ar gyfer yr Adolygiad Clinigol Annibynnol ac rydym mewn cysylltiad rheolaidd ynghylch y camau nesaf.
Er nad yw'r adolygiad wedi cychwyn eto, rydym yn sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn barod i ymwneud yn llawn ac yn adeiladol â'r broses pan fydd yn dechrau. Bydd yr adolygiad yn gyfle pwysig i gryfhau sicrwydd ymhellach ynghylch y gwasanaeth a helpu i lywio penderfyniadau yn y dyfodol.
Cyn gynted ag y byddwn yn derbyn gwybodaeth wedi'i chadarnhau am gwmpas, amserlenni neu gynnydd yr adolygiad, byddwn yn cyfleu hyn yn uniongyrchol i gleifion a rhanddeiliaid ac yn diweddaru ein gwybodaeth gyhoeddedig yn unol â hynny.
Mae'n bwysig tynnu sylw at y ffaith bod yr Adolygiad Clinigol Annibynnol yn ddarn o waith ar wahân i Adolygiad Gwasanaeth Rhywedd Cymru, sy'n asesiad o'r gwasanaeth cyfan ac sydd wedi'i gynllunio ers 2024. Mae'r adolygiad hwn yn asesu'r gwasanaeth yn erbyn ei fanyleb gyfredol, safonau proffesiynol perthnasol, tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg, a datblygiadau cenedlaethol. Disgwylir canfyddiadau cychwynnol Adolygiad Gwasanaeth Rhywedd Cymru erbyn diwedd 2026.
Ers cyhoeddi'r saib, mae gwaith yn mynd rhagddo i nodi cleifion y gallai hyn effeithio arnynt. Fe wnaethon ni nodi 451 o gleifion ar draws y llwybr llawdriniaeth gofal cadarnhau rhywedd yng Nghymru y gallai’r saib effeithio arnynt, ac mae llythyrau wedi'u hanfon at yr holl unigolion hynny. Bydd rhai cleifion eisoes wedi derbyn y rhain a bydd eraill yn eu derbyn yn fuan. Rydym yn cydnabod bod amgylchiadau pob claf yn wahanol ac yn deall y gallai fod gan rai pobl gwestiynau o hyd ynghylch beth mae hyn yn ei olygu i'w gofal. Os nad ydych wedi derbyn llythyr ond bod gennych gwestiynau am eich gofal unigol, cysylltwch â ni drwy'r tîm pryderon yn cav.concerns@wales.nhs.uk . Bydd y tîm pryderon yn cyfeirio eich ymholiad yn briodol i fynd i'r afael â'ch cwestiynau unigol.
Mewn ymateb i adborth a chwestiynau a dderbyniwyd gan gleifion, teuluoedd a rhanddeiliaid, rydym wedi cyhoeddi set o gwestiynau cyffredin, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â chydweithwyr Gwasanaeth Rhywedd Cymru a Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru. Bydd y Cwestiynau Cyffredin hyn yn parhau i gael eu diweddaru wrth i ragor o wybodaeth ddod ar gael.
Anogir cleifion a rhanddeiliaid i adolygu'r Cwestiynau Cyffredin cyn cysylltu â'r gwasanaeth, gan y gallant ddarparu atebion i lawer o gwestiynau cyffredin.
Darllenwch y cwestiynau cyffredin ar wefan BIP Caerdydd a'r Fro
Rydym yn deall y gallai fod angen gwybodaeth, sicrwydd neu gymorth emosiynol ychwanegol ar rai cleifion yn ystod y cyfnod hwn.
Os oes gennych gwestiynau am y saib presennol, os oes angen eglurhad arnoch am eich amgylchiadau unigol, neu os hoffech ofyn am gymorth seicolegol, cysylltwch â: Cav.Concerns@wales.nhs.uk
Er na allwn ateb pob cwestiwn am ganlyniad neu amserlen yr Adolygiad Clinigol Annibynnol eto, byddwn yn parhau i ymateb mor agored â phosibl a darparu diweddariadau pan fydd gwybodaeth newydd yn cael ei chadarnhau.
Gall cleifion sydd angen cymorth iechyd meddwl brys hefyd gael mynediad at wasanaethau drwy:
Os yw bywyd rhywun mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 neu ewch i'r Adran Achosion Brys agosaf.
Hoffem ailadrodd ein diolch diffuant i gydweithwyr o fewn Gwasanaeth Rhywedd Cymru am y proffesiynoldeb, y tosturi a'r ymrwymiad y maent yn parhau i'w ddangos wrth gefnogi cleifion yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Rydym yr un mor ddiolchgar i gydweithwyr ar draws y GIG, sefydliadau'r Trydydd Sector, grwpiau eiriolaeth a'r gymuned ehangach sy'n parhau i ddarparu cymorth ymarferol ac emosiynol i gleifion, teuluoedd ac anwyliaid ledled Cymru. Mae eich partneriaeth, eich dealltwriaeth a'ch ymrwymiad yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.
Mae ein blaenoriaethau’n parhau heb eu newid:
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal cadarnhau rhywedd o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n dosturiol, a byddwn yn parhau i rannu diweddariadau ffeithiol wrth i'r gwaith fynd rhagddo.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.