Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Gwasanaeth Rhywedd Cymru – 3 Medi 2026

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn parhau i weithio'n agos gyda Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (NWJCC) yn dilyn y penderfyniad i oedi atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaeth cadarnhau rhywedd, asesiadau llawfeddygol a llawdriniaeth wedi'i threfnu drwy Wasanaeth Rhywedd Cymru tra bod gwaith sicrwydd clinigol annibynnol yn cael ei wneud.

Ers y cyhoeddiad ar 28 Awst, rydym wedi clywed gan gleifion, teuluoedd, clinigwyr a sefydliadau partner sy'n ceisio mwy o eglurder ynghylch beth mae'r oedi yn ei olygu, pa mor hir y gallai bara a beth mae'n ei olygu ar gyfer gofal parhaus. Rydym yn deall bod y cyfnod ansicr hwn yn peri pryder i lawer o bobl.

Rydym yn gweithio gyda'r NWJCC i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd, rhoi'r sicrwydd angenrheidiol a chefnogi’r broses o isgyfeirio’r gwasanaeth cyn gynted â phosibl ac mor ddiogel â phosibl.

Mae ein hymrwymiad i ddarparu gofal cadarnhau rhywedd o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n dosturiol i bobl ledled Cymru yn parhau heb ei newid.

Beth oedd ein diweddariad blaenorol yn ei ddweud?

Yn ein diweddariad ar 28 Awst 2026, gwnaethom egluro fod yr NWJCC wedi gofyn i'r Bwrdd Iechyd oedi atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaeth cadarnhau rhywedd, asesiadau llawfeddygol a llawdriniaeth wedi'i threfnu drwy Wasanaeth Rhywedd Cymru tra bod gwaith adolygu clinigol annibynnol pellach yn cael ei wneud.

Daeth y penderfyniad yn dilyn cyfarfod Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Chanlyniadau’r NWJCC ar 24 Awst 2026, pan gafodd y gwasanaeth ei uwchgyfeirio i Lefel 3. Uwchgyfeiriad Lefel 3 yw proses wella a sicrwydd ffurfiol y GIG. Mae'n golygu bod pryderon wedi'u nodi sy'n gofyn am fwy o waith goruchwylio, monitro a gwella.

Mae'r saib yn ymwneud yn benodol â'r llwybr llawfeddygol. Mae gofal arall a ddarperir drwy Wasanaeth Rhywedd Cymru yn parhau, gan gynnwys:

  • cymorth therapi hormonau
  • adolygiad endocrin
  • cymorth seicolegol
  • therapi iaith a lleferydd
  • cynnal ffrwythlondeb a thriniaeth trwy wasanaethau ffrwythlondeb 

Dylai cleifion sydd ag apwyntiadau wedi'u trefnu gyda Gwasanaeth Rhywedd Cymru barhau i fynychu oni bai y cysylltir â nhw’n uniongyrchol a'u bod yn cael eu cynghori fel arall.

Gallwch ddarllen diweddariad Gwasanaeth Rhywedd Cymru a gyhoeddwyd ar 28 Awst 2026 i gael y cefndir llawn.

Rydym yn deall bod cleifion a rhanddeiliaid ledled Cymru eisiau eglurder ynghylch pa mor hir y bydd y saib yn para. Rydym yn ceisio darparu'r eglurder hwnnw cyn gynted â phosibl, ond nid ydym am greu ansicrwydd pellach drwy roi amserlen cyn bod y gwaith sicrwydd wedi mynd rhagddo’n ddigonol.

Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf a byddwn yn cysylltu'n uniongyrchol â chleifion yr effeithir arnynt os bydd datblygiadau sy'n effeithio ar eu gofal unigol.

 

Ein hymrwymiad i ofal sy'n cadarnhau rhywedd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddarparu gofal cadarnhau rhywedd o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n canolbwyntio ar y person, i bobl ledled Cymru.

Nid yw'r uwchgyfeirio a'r adolygiad presennol yn newid yr ymrwymiad hwnnw. Diben y broses sicrwydd yw sicrhau bod gan y gwasanaeth drefniadau cadarn o ran ansawdd, diogelwch a llywodraethu clinigol a'i fod yn gallu parhau i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i gleifion. Mae hefyd yn gyfle i nodi unrhyw welliannau sydd eu hangen i gryfhau'r gwasanaeth a phrofiad cleifion o ofal.

Rydym yn cydnabod bod gofal iechyd sy'n cadarnhau rhywedd yn cael ei drafod mewn amgylchedd cyhoeddus sy’n mynd yn fwy fwy polareiddiedig. Bydd ein dull yn parhau i fod wedi'i seilio ar dystiolaeth glinigol, gwybodaeth gywir a pharch at urddas cleifion, teuluoedd a staff.

Rydym yn annog pobl i geisio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy ac i gydnabod yr effaith wirioneddol y gall ansicrwydd ei chael ar gleifion, teuluoedd a chydweithwyr.

Cwestiynau cyffredin newydd

Mae'r cwestiynau rydyn ni wedi'u derbyn ers y cyhoeddiad wedi tynnu sylw at y meysydd lle mae pobl fwyaf eisiau rhagor o wybodaeth a sicrwydd.

Rydym wedi gwrando ar y cwestiynau hynny ac wedi'u defnyddio i ddatblygu set o gwestiynau cyffredin, mewn partneriaeth â chydweithwyr Gwasanaeth Rhywedd Cymru a Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru.

Bydd y Cwestiynau Cyffredin yn cael eu diweddaru wrth i ragor o wybodaeth ddod ar gael.

Mae'r Cwestiynau Cyffredin hyn yn cael eu cyfieithu i'r Gymraeg ar hyn o bryd. Cyn gynted ag y byddant ar gael, byddant yn cael eu cyhoeddi. Ymddiheurwn am yr oedi.

Cwestiynau, pryderon a cheisiadau am gymorth

Rydym yn deall y bydd gan gleifion unigol a theuluoedd amgylchiadau gwahanol ac efallai y bydd angen gwybodaeth neu gymorth arnynt sy'n benodol iddynt hwy.

Os oes gennych gwestiwn neu bryder am y cyhoeddiad, neu os hoffech ofyn am gymorth, anfonwch e-bost at Cav.Concerns@wales.nhs.uk.

Efallai na fyddwn yn gallu ateb pob cwestiwn am ganlyniad neu amserlen yr adolygiad clinigol annibynnol eto. Fodd bynnag, byddwn yn ymateb mor agored ag y gallwn a byddwn yn parhau i ddiweddaru'r Cwestiynau Cyffredin wrth i wybodaeth newydd gael ei chadarnhau.

 

Y cymorth sydd ar gael

Rydym yn cydnabod arwyddocâd yr ansicrwydd presennol a'r effaith y gallai hyn ei chael. Nid oes rhaid i gleifion, aelodau o'r teulu nac anwyliaid ddelio â’r teimladau hyn ar eu pennau eu hunain.

  • GIG 111 Cymru - Pwyswch 2:  Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, ffoniwch 111 a phwyswch opsiwn 2. Mae'r gwasanaeth ar gael ledled Cymru, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ac mae galwadau am ddim o linell dir neu ffôn symudol.
  • Y Samariaid: Ffoniwch 116 123 yn rhad ac am ddim unrhyw bryd os ydych chi angen rhywun i siarad ag ef.
  • Switsfwrdd: Llinell Gymorth LHDTCRhA+ am ddim.
  • CALL (Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru): Yn cynnig cymorth emosiynol a gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl i bobl Cymru.

Os yw bywyd rhywun mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 neu ewch i'r Adran Achosion Brys agosaf.

Mae gwybodaeth arall am gymorth ac eiriolaeth hefyd ar gael ar dudalennau gwe Gwasanaeth Rhywedd Cymru.

 

Diolch i gydweithwyr a sefydliadau partner

Rydym am ddiolch i gydweithwyr yng Ngwasanaeth Rhywedd Cymru am y tosturi, y proffesiynoldeb a'r ymrwymiad y maent yn parhau i'w ddangos.

Mae aelodau'r tîm yn gweithio'n agos gyda chleifion ac yn deall pa mor anodd a gofidus y gall y cyfnod ansicr hwn fod. Rydym yn cydnabod bod y sefyllfa bresennol yn cael effaith sylweddol hefyd ar gydweithwyr sydd wedi datblygu cydberthnasau dibynadwy â defnyddwyr gwasanaeth ac sy'n cefnogi pobl trwy gyfnodau personol a phwysig iawn yn eu bywydau.

Rydym yr un mor ddiolchgar i gydweithwyr ar draws y gwasanaeth iechyd ehangach a sefydliadau'r Trydydd Sector sydd wedi bod yn siarad â chleifion, teuluoedd a chymunedau ac yn eu cefnogi. Mae eu mewnwelediad, eu heiriolaeth a'u cymorth ymarferol yn hynod werthfawr, yn enwedig i bobl sy'n poeni am yr hyn y gallai'r oedi ei olygu i'w gofal.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Ein blaenoriaethau uniongyrchol yw:

  • cefnogi cleifion a theuluoedd y mae’r oedi’n effeithio arnynt
  • gweithio gyda'r NWJCC i ddarparu'r sicrwydd clinigol a llywodraethu gofynnol
  • cefnogi cydweithwyr Gwasanaeth Rhywedd Cymru drwy gydol y broses adolygu
  • rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gleifion yn brydlon pan fydd gwybodaeth wedi’i chadarnhau am eu gofal
  • cefnogi’r broses o isgyfeirio’r gwasanaeth yn ddiogel cyn gynted â phosibl
  • parhau i ymgysylltu â chleifion a rhanddeiliaid ledled Cymru gyda'r wybodaeth ddiweddaraf

Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau clir a ffeithiol wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Lle mae gwybodaeth sy'n effeithio ar ofal claf unigol, byddwn yn cysylltu â chleifion yn uniongyrchol.

Gwybodaeth i’r Cyfryngau

Dylid cyfeirio pob ymholiad gan y cyfryngau am Wasanaeth Rhywedd Cymru a gofal cleifion at Dîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn news@wales.nhs.uk.

Dylid cyfeirio ymholiadau gan y cyfryngau am yr adolygiad a'r broses at Dîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru yn NWJCC.Communications@wales.nhs.uk.

 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni