Neidio i'r prif gynnwy

Byw ein Gwerthoedd

Lansiwyd y rhaglen Gwerthoedd ar Waith yng Ngwanwyn 2016, gyda chwe gwerth craidd: Ymddiriedaeth, Parch, Uniondeb, Gofal, Caredigrwydd a Chyfrifoldeb Personol. Cyd-gynhyrchwyd y gwerthoedd hyn yn unol â Strategaeth ddeng mlynedd y Bwrdd Iechyd, Llunio ein Llesiant yn y Dyfodol.

Mae ‘Ein Gwerthoedd ar Waith’ yn ymwneud â throsi ein gwerthoedd i’r ymddygiadau diriaethol yr ydym am eu gweld gan ein gilydd, ac i’n hysbrydoli i barhau i wella ein profiad i gleifion a staff.

Yn 2016, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu ar gyfer staff a chleifion. Gwnaed bron i 3,000 o gyfraniadau i brosiect Gwerthoedd ar Waith y Bwrdd Iechyd, a ddyluniwyd i archwilio'r gwerthoedd a'r ymddygiadau yr oedd staff a chleifion eisiau eu gweld.

Mae'r gwaith hwn wedi arwain at set o werthoedd diwygiedig a disgrifiad o'r ymddygiadau disgwyliedig sy'n pwysleisio pwysigrwydd gwaith tîm a'n huchelgais i wella bob amser; materion allweddol yr oedd staff yn teimlo eu bod ar goll o'r gwerthoedd gwreiddiol.

Y gwerthoedd diwygiedig yw:

  • Caredig a gofalgar
  • Parchus
  • Ymddiriedaeth ac uniondeb
  • Cyfrifoldeb personol.

Bydd cam nesaf y rhaglen hon angen mwy o ymgysylltu â staff i'w hannog a'u herio i ddangos yr ymddygiadau sy'n cyd-fynd â'r gwerthoedd.

Dengys y fframwaith pa ymddygiadau yr ydym am eu gweld gan unigolion a thimau, a hefyd mae'n darparu'r hyn nad ydym am ei weld. Dyma yw ystyr Byw ein Gwerthoedd.

Values Poster Image

Dilynwch ni