Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Rieni

Llyfr ar fwrdd

Yr Uned Gofal Dwys i Blant (PICU) yw'r Uned Gofal Dwys cyntaf i Blant yng Nghymru, a'r unig un o'i math, ac mae'n gofalu am blant o'u genedigaeth i 16 mlwydd oed.  Yn ystod arhosiad eich plentyn, byddant dan ofal Meddyg Ymgynghorol Arbenigol profiadol ym maes Gofal Dwys i Blant.

Bob dydd, byddwch yn gallu siarad â'r tîm o feddygon sy'n gofalu am eich plentyn.  Mae meddyg ar ddyletswydd 24 awr y dydd.  Bydd nyrs plant gymwysedig sydd â phrofiad o ofal dwys yn gofalu am eich plentyn ar bob shifft. Mae dau brif shifft - dyletswydd dydd a dyletswydd nos.

  • Mae dau rownd ward gan feddygon bob dydd, am 8.30 am ac am 4.30 pm. 
  • Mae nyrsys yn trosglwyddo am 7.30 am ac am 7.30 pm. 

Bydd pob aelod o dîm PICU yn eich cefnogi chi ac yn rhoi gwybod i chi am gyflwr a gofal parhaus eich plentyn. Byddwch yn gweld llawer o dimau sy'n ymweld, fel Ffisiotherapyddion a staff mewn gwisgoedd eraill, a fydd yn helpu i ddarparu gofal i'ch plentyn. Os nad ydych yn siwr pwy yw rhywun, gofynnwch i aelod o'r tîm nyrsio.

Bydd eich plentyn yn cael ei nyrsio yn un o 8 o ardaloedd gwely yn y PICU. Bydd llawer o weiars a thiwbiau wedi'u cysylltu â'ch plentyn. Mae'r weiars yn darparu gwybodaeth bwysig am eich plentyn i'r staff meddygol a nyrsio sy'n gofalu amdano, ac mae'r tiwbiau yn galluogi staff i roi meddyginiaeth y mae ar eich plentyn ei hangen i'w gadw ynghwsg ac yn ddi-boen, ac i'w helpu i wella.

Gall amgylchedd y PICU achosi llawer o straen a gallech deimlo bod peiriannau, goleuadau llachar a sŵn anghyfarwydd o'ch cwmpas ym mhobman. Am y rhesymau hyn, gallech deimlo nad ydych yn gallu ymdopi neu helpu eich plentyn. 

Gofalu am eich plentyn

Mae sawl ffordd i chi barhau i gyflawni eich rôl fel rhiant i'ch plentyn a byddwn yn eich annog ac yn eich helpu i wneud pan fyddwch yn barod. Darllenwch ein Canllaw defnyddiol i Rieni am ragor o gyngor ar sut i ymdopi eich hunan, a gwybodaeth am sut i helpu brodyr a chwiorydd.

Bydd lefel y gofal y teimlwch y gallwch ei roi yn dibynnu arnoch chi. Mae llawer o rieni'n dymuno helpu i olchi eu plentyn neu newid ei gewyn, mae eraill yn hapus i wylio hyd nes bydd rhai o'r tiwbiau a'r weiars wedi'u tynnu i ffwrdd.

Bach iawn o ddillad bydd eich plentyn yn ei wisgo tra bydd yn y PICU, fel y gall y nyrs arsylwi'r plentyn yn fanwl. Efallai byddwch chi am ddod â hosannau i'ch baban, neu eitemau penodol sydd o gysur i'ch plentyn gartref.

Mae'n siwr y bydd eich plentyn yn gallu'ch clywed chi, hyd yn oed os bydd wedi cael meddyginiaeth i wneud iddo gysgu.  Felly, gall gael llawer o gysur o sŵn eich llais neu gyffyrddiad eich llaw. Efallai yr hoffech ddod â hoff degan neu flanced i mewn, darllen i'ch plentyn neu chwarae ei hoff gerddoriaeth. Cofiwch mai chi sy'n adnabod eich plentyn orau.

Os ydych chi'n bwydo'ch baban ar y fron, efallai byddwch am dynnu llaeth o'r fron ar ei gyfer ac mae offer ar gael i chi wneud hyn.  Bydd y nyrs yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i chi. Yna, gall eich llaeth gael ei roi i'ch baban trwy un o'r tiwbiau arbennig.

Gofalu amdanoch eich hun

Gofalu amdanoch eich hun yw un o'r ffyrdd gorau y gallwch helpu eich plentyn. Dyma amser o straen enfawr i chi ac mae'n bwysig i chi gadw'n gryf yn gorfforol ac yn emosiynol i'ch plentyn.

Mae ystafelloedd aros gerllaw'r PICU i chi eu defnyddio yn ystod eich arhosiad, gyda theledu ynddynt. Mae nifer o leoedd i fwyta yn yr ysbyty a bydd staff yn rhoi gwybod i chi sut i ddod o hyd iddynt. Hefyd, mae nifer o siopau yn y Cyntedd.  

  • Cofiwch fwyta ac yfed – efallai na fydd awydd bwyd arnoch, ond bydd angen egni arnoch, felly bwytewch ychydig, yn aml.
  • Cymerwch seibiau rheolaidd i ffwrdd o'r uned – gall fod yn anodd gadael eich plentyn am gyfnodau byr, ond bydd yr amser hwn yn eich helpu i gael eich cefn atoch. Bydd y nyrs sy'n gofalu am eich plentyn yn aros gyda'r plentyn ac yn cysylltu â chi os bydd angen.
  • Ceisiwch gael digon o orffwys a chwsg.  Mae llety i rieni ar gael yn yr ysbyty, felly gofynnwch os hoffech aros a bydd y nyrs sy'n gofalu am eich plentyn yn ceisio trefnu hyn i chi.
  • Defnyddiwch y cymorth sydd ar gael i chi, fel teulu a ffrindiau. Yn ystod cyfnodau fel hyn, mae pobl yn aml yn gwerthfawrogi cael gwybod beth allant ei wneud i helpu.

Help a Chymorth i Chi

Mae llawer o bobl yn yr ysbyty i'ch helpu a'ch cynorthwyo chi. Gall staff y PICU roi gwybodaeth berthnasol i chi os bydd angen eu cymorth arnoch.

  • Nyrs cymorth rhieni - gall y nyrs sy'n gofalu am eich plentyn roi i chi'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch, neu gysylltu â nhw ar eich rhan 
  • Mae Caplan yr Ysbyty ar gael bob amser os hoffech gael rhywun i siarad â nhw. Nid oes angen i chi fod yn grefyddol na mynd i'r eglwys i wneud hynny. 
  • Mae capel yr ysbyty wedi'i leoli ar 5ed llawr Bloc B, Ysbyty Athrofaol Cymru, ac mae'n fan tawel i chi gael saib neu ychydig o amser tawel. Mae ar agor 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos. Hefyd, gallwn drefnu bedyddio neu fendithio'ch plentyn, os hoffech wneud hyn. Gofynnwch i ni unrhyw bryd, fel y gallwn drefnu bod yr arweinydd crefyddol o'ch dewis yn dod lawr i'r uned.
  • Gweithiwr cymdeithasol ysbyty
  • Gwasanaeth dehongli iaith
  • Mae nifer o aelodau staff Cymraeg eu hiaith yn nhîm y PICU os Cymraeg yw eich mamiaith. Edrychwch am y logo ar wisg y staff.
Dilynwch ni