Neidio i'r prif gynnwy

Gadael yr Uned Gofal Critigol i Blant

Tedi bêr ar gês dillad

Bydd y Meddyg Ymgynghorol sy'n gofalu am eich plentyn yn penderfynu pryd mae'n ddigon da i adael yr Uned Gofal Critigol i Blant.

Ni fydd angen y monitro, y gofal meddygol na'r gofal nyrsio dwys a gafodd yn ystod ei arhosiad arno mwyach. Mae'n amser o newid ac addasu hefyd, a all weithiau achosi pryderon i chi fel rhiant.

Bydd eich plentyn yn cael ei drosglwyddo i'r Uned Dibyniaeth Uchel i Blant, i un o'r Wardiau Plant, neu gall fynd yn syth nôl i'w ysbyty lleol.

Bydd tîm o staff profiadol yn gofalu amdano. Yn ystod y cyfnod hwn, gallech weld bod rhai pethau'n cael eu gwneud yn wahanol i'r hyn rydych chi wedi dod i arfer ag ef yn yr Uned Gofal Critigol i Blant.

Nawr, bydd angen monitro'ch plentyn yn llai aml oherwydd bydd ei gyflwr wedi gwella. Ni fydd angen gofal nyrsio unigol arno mwyach. Bydd hyn yn golygu y bydd y nyrs sy'n gofalu am eich plentyn yn gofalu am blant eraill hefyd.

Bydd hyn yn caniatáu i chi ymwneud llawer yn fwy â gofal dyddiol a gwellhad eich plentyn.

Bydd nyrs yr Uned Gofal Critigol i Blant sy'n gofalu am eich plentyn yn esbonio beth i'w ddisgwyl cyn, yn ystod ac ar ôl i'ch plentyn adael y PCCU. Efallai cewch gyfle i ymweld â'r ward newydd a chael eich cyflwyno i aelod o'r tîm nyrsio, os byddai hyn yn ddefnyddiol yn eich barn chi.

Dilynwch ni