Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Blant a Phobl Ifanc yn eu Harddegau

Bachgen yn darllen wrth silff lyfrau

Os ydych chi o dan 16 oed, gallech gael eich derbyn i'r Uned Gofal Critigol i Blant (PCCU) i dderbyn eich gofal cychwynnol neu ar ôl eich llawdriniaeth.

Os bydd y meddygon yn bwriadu i chi ddod i'r PCCU, byddant fel arfer yn trefnu ymweliad y diwrnod cynt. Byddwch yn sylwi bod yr uned yn swnllyd, gyda goleuadau llachar a llawer o beiriannau. 

Bydd y meddygon a'r nyrsys yn cadw llygad arnoch chi trwy gydol eich arhosiad ac yn trafod sut rydych chi mewn grŵp yn y bore, y prynhawn a gyda'r nos. Hefyd, bydd llawer o staff eraill mewn iwnifform yn gwneud swyddi eraill, fel sicrhau eich bod chi'n cael y meddyginiaethau cywir a'ch bod yn cael y bwyd cywir, ac ati. Os nad ydych chi'n gwybod pwy yw rhywun, gofynnwch iddyn nhw neu i'ch nyrs chi.

Yn ystod eich cyfnod yn yr uned, cewch boenladdwyr cryf ac, os byddwch chi ar beiriant anadlu, byddwch chi'n cael meddyginiaeth i sicrhau eich bod chi'n cysgu hefyd. Bydd hyn yn eich helpu i ymlacio ac yn eich galluogi chi i gysgu os yw'n swnllyd yn ystod y nos.

Gall eich rhieni fod gyda chi cymaint ag y byddwch chi am iddynt fod, ond byddwn yn gofyn iddynt adael yr uned adeg ychydig gyfarfodydd yn yr uned yn ystod y dydd. Dylai hyn fod am amser byr yn unig. Gall eich brodyr a'ch chwiorydd ymweld hefyd, os ydych chi'n dymuno hynny. Rydym ni'n cyfyngu ar ymweliadau gan ffrindiau â'r uned oherwydd ei bod hi mor brysur, ond gallwch ofyn os hoffech i ffrind neu ddau ymweld â chi. Bydd y nyrs yn rhoi gwybod pa amser fydd orau ar gyfer hyn.

Bydd nyrs gyda chi bob amser tra byddwch chi yn y PCCU. Bydd gyda chi drwy'r dydd/nos.

Os ydych chi'n poeni am unrhyw beth yn ystod eich arhosiad, gofynnwch i'ch nyrs neu i unrhyw aelod o'r tîm.

Pan fyddwch chi ar ddihun, fe welwch chi lawer o diwbiau arnoch chi. Mae'r rhain yn cofnodi gwybodaeth amdanoch chi ar wahanol beiriannau. Maen nhw'n gwneud llawer o sŵn i ofyn i'r nyrs edrych ar y peiriant neu edrych arnoch chi.

Mae plant hŷn yn cael eu nyrsio mewn gynau neu yn eu pyjamas eu hunain cyn gynted â phosibl.

Ceisiwch beidio â dod ag eitemau gwerthfawr i'r ysbyty gyda chi oherwydd mae'n fan prysur eithriadol a gall pethau fynd ar goll os ydych chi'n cael eich symud o gwmpas ardaloedd ward gwahanol. Gallwch ddefnyddio'ch ffôn symudol heb sŵn pan fyddwch chi'n ddigon iach i wneud. Hefyd, mae gemau Nintendo neu setiau teledu i'w gwylio os byddwch chi'n teimlo fel gwneud yn ystod eich arhosiad. Fel arfer, pan fyddwch chi wedi dihuno ac yn gwella, cewch eich symud yn ôl i un o'r wardiau.

Dilynwch ni