Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Critigol i Blant

Mae'r Uned Gofal Critigol i Blant yn gweithio'n agos gyda phob arbenigedd meddygol a llawfeddygol drydyddol i blant.  Mae'n cefnogi llawdriniaeth ddewisol (wedi'i chynllunio) o'r arbenigeddau canlynol: niwrolawdriniaeth, llawdriniaeth yr asgwrn cefn, llawdriniaeth gymhleth y llwybr anadlu (ENT), a llawdriniaeth bediatrig gyffredinol, ond mae mwyafrif ein derbyniadau yn achosion brys. Rydym ni'n Brif Ganolfan ddynodedig a ni yw'r unig Uned Gofal Critigol i Blant yng Nghymru. Rydym ni'n darparu gwasanaeth i'r holl blant y mae angen gofal dwys arnynt ledled de Cymru gyfan, ac mae gennym gysylltiadau agos â Phrif Ganolfannau yn Lloegr, yn enwedig Bryste, Birmingham a Great Ormond Street.

Mae'r uned bellach wedi symud i'r Uned Gofal Critigol i Blant ar drydydd llawr ysbyty newydd Ysbyty Plant Cymru.

Dilynwch ni