Neidio i'r prif gynnwy

Brodyr a Chwiorydd

Bachgen, yn eistedd ar fainc, yn cusanu baban

Pan fydd eich plentyn yn cael ei dderbyn i'r Uned Gofal Dwys i Blant, mae'n naturiol bod ei frodyr a'i chwiorydd yn teimlo dryswch a thrallod hefyd. Mae'n bwysig cofio y gall eu dealltwriaeth o'r sefyllfa fod yn wahanol i'ch dealltwriaeth chi ac mae'n bwysig eu hannog nhw i ofyn cwestiynau a dweud sut maent yn teimlo. Rhowch esboniadau syml iddynt o beth sy'n digwydd.

Gallech benderfynu gadael iddynt ymweld â'r PICU, a bydd y nyrs sy'n gofalu am eich plentyn yn eich cynorthwyo i wneud hyn. Anogwch nhw i ddod â rhywbeth gyda nhw i'w brawd neu chwaer, fel llun neu gerdyn a wnaethant, oherwydd gallai hyn eu helpu nhw i deimlo'n rhan o bethau.

Nid yw'n anghyffredin i'ch plant iach deimlo'n ofidus pan fyddant i ffwrdd oddi wrthoch chi neu pan fydd eu trefn ddyddiol yn newid. Ceisiwch gadw pethau mor normal â phosibl iddynt. Mae'n bwysig eu bod yn treulio amser gyda chi, naill ai trwy ymweld â'r ysbyty neu trwy dreulio amser gyda chi gartref.

Hefyd, gallech fod eisiau esbonio beth sy'n digwydd i athro ysgol eich plentyn.

Fel tîm yn PICU, rydym ni'n hybu ymagwedd deuluol at ofal – mae hyn yn golygu ein bod am helpu a chefnogi'r teulu cyfan yn ystod eich arhosiad yn yr ysbyty.

Os bydd brodyr neu chwiorydd yn anhwylus, ni ddylent ymweld â'r PICU. Gwiriwch gyda'r nyrs â gofal cyn i chi ddod â phlant neu fabanod i'r uned.

Dilynwch ni