Neidio i'r prif gynnwy

Eich Adborth

Blwch post

Mae eich barn yn bwysig i ni.  Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw awgrymiadau am sut gallwn ni wella'r gofal rydym ni'n ei roi i chi fel teulu. Pan fydd eich plentyn yn barod i'w ryddhau o'r ysbyty, byddwch cystal ag ateb holiadur byr am eich profiad a'i bostio i'r blwch post y tu allan i'r Uned Gofal Dwys i Blant neu ar yr Uned Dibyniaeth Uchel.

Os byddwch yn anfodlon ag unrhyw beth, gwnawn bob ymdrech i ddelio â'r broblem. Fodd bynnag, os hoffech gwyno'n ffurfiol, bydd staff yn esbonio gweithdrefn gwyno'r ysbyty i chi ac yn rhoi'r wybodaeth ysgrifenedig berthnasol y mae ei hangen arnoch i gwyno'n ffurfiol.

Pan fyddwch yn gadael, cewch restr o gwestiynau am eich arhosiad fel y gallwn geisio helpu i wella arhosiad teuluoedd yn y dyfodol.

Dilynwch ni